Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. 3yf. XXVI.] GORPHENAF, 1902. [Rhif 7. NODION BYWGRAFFYDDOL. Y Diweddar Fbawd Stephen Jones, Rhos. (Parhad o tu dalen 85). Ei Dduwinyddiaeth. O ran ei olygiadau neillduol ar bynciau crefyddol, megis " Etholedigaeth gras," " Aberth ac Iawn Crist," " Rhyddid Ewyllys," &c, Galfiniad ydoedd. Calfin lled gryf ydoedd hefyd ; un o'r hen rywogaeth " sier yn ei feddwl ei hun,'' ac nid oedd dim a allai ei ysgogi oddi- wrth ei syniadau. Yn ei ddadleuon ar y pynciau dydd- orol hyn yn y blynyddoedd a fu (cofîa da am dano), ni allai oddef na chydymdeimlo â neb o syniadau gwahanol. Mor gryf a phenderfynol ydoedd fel yr ystyriai ei hun yn safon arnynt, ac y tybiai yn gydwybodol fod pawb na chyd olygai, yn methu, ac ni byddai yn brin o ddweyd hyny mewn iaith gref a miniog. Ië, Gaifin i'r carn ydoedd, a hyn i fesur sydd yn cyfrif am ei hoÖder o weithiau a phregethau Mr. Spurgeon. Heblaw duwin- yddiaeth gyfoathog, ac arabedd anghydmarol Spurgeon, yr oedd yn iach (chwedl yntau) ar bynciau'r efengyl. Oblegid hyn yr oedd yn cael dyddordeb mawr yn ei ẅeithiau ac yn cymdeithasu llawer â hwy. Yr oedd Mr. Spurgeon yn ei olwg ef, nid yn unig yn bregethwr penaf yr oes, ond hefyd y Puritan penaf ; a dyna oedd dyheuad ei enaid ef, am i ddeuparth yspryd y gwr duwiol hwnw syrthio ar arweinwyr crefyddol em gwlad yn yr oes an- wadal hon. Ei Gymhwysderau Bugeiliol. Fel bugail efe a deilynga ganmoliaeth uwchlaw dim a