Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVI.] MAI, 1902. [Ehif 5. NODION BYWGBAFFYDDOL. Y Diweddab Fbawd Stephen Jones, Bhos. (Parhad o tu dalen 52). BEENIE na faddeuodd Paul iddo ei hun tra y bu efe byw ar y ddaear am iddo " erlid eglwys Dduw," a bod " yn gablwr, yn erlidiwr, ac yn drahaus," cyn ei droedigaeth. Parai hyny oüd dwys iddo :—a " llai na'r lleiaf o'r holl saint," ac un heb fod yn deilwng o'i alw yn apostol, y galwai ei hun, pan yn adystyried ei ymddygiadau annheilwng at Grist a'i eglwys. Ac er na bu ein diweddar frawd, Stephen Jones, erioed yn euog o ddirmygu saint yr Arglwydd, na chablu ei Bnw, fel y gwnai Saul o Tarsus ; etto, ni faddeuodd yntau iddo ei hun, o herwydd ei ymddygiad cyn ei droed- ìgaeth ; sef yn laf—Ei fod yn llawn deugain mlwydd oed pan y proffesodd efe ffydd yn Nghrist. Yn 2—Am na roddodd gyffes i'w dad, nac addewid y rhoddai ufudd-dod i'r efengyl, pan bwysai yn daer arno ar ei wely angeu. Dyma fel yr adroddai efe yn y gyfeillach grybwylledig, hanes ei droedigaeth. Pan oedd ei dad (Stephen Jones yr hynaf) wedi ei gaethiwo i'w wely yn ei gystudd olaf, ychydig cyn ei far- wolaeth, galwodd am ei fab, Stephen, i'w ystafell er mwyn cael ymddiddan âg ef ar fater pwysîg ei enaid. Yr oedd hyd yn hyn yn ddibroffes ; wedi bod yn gwrando yn gyson tros ei holl fywyd ac yn dwyn mawr zel dros yr achos. Eto, parhau yn gyndyn, anmhlygedig, ac anufudd i'r gwirionedd yr oedd hyd yn hyn. Yr oedd yn amlwg ddigon mai hyn oedd pryder a gofid penaf ei dad yn ei awr gyfyng olaf. "Fy mab," meddai, fel y gallai