Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVI.] EBRILL, 1902. [Rhip 4. NODION BYWGRAFFYDDOL. Y Diweddar Fbawd Stephen Jones, Rhos. (Parhad o tu dalen 35). ÄBTH tymhor ei fachgendod heibio heb i ddim neillduol gymeryd lle yn ei hanes, oddieithr yr hyn sydd yn cymeryd lle yn hanes y rhan liosoccaf o ieuengctyd ein gwlad, sef, esgeuluso y tymhor mwyìf manteisiol ar eu bywyd ; yr adeg y mae cynnydd a dadblygiad yn gyd- marol hawdd. Dichon y dylem ranu y bai hwn, gan osod y naill ran o hono ar y rhieni, a'r rhan arall ar y plant. Pa beth bynnag oedd rhinweddau ein henafiaid (ac yr ydym yn eu hadgofio gyd ag edmygedd a pharch), ofnwn fod graddau helaeth o esgeulusdra o'u tu hwy mewn perthynasâdadblygiad bywyd o rinwedd a defnyddioldeb yn eu holafiaid. Credwn mai hwn yw y pla fu yn attal cynydd a llwyddiant yr egwyddorion pur a broffesent! Er hyny credwn fod y bai hwn yn fwy o gamgymeriad nag o bechod ynddynt wedi'r cwbl. Éi Ymewymiad Priodasol. Ymbriododd yn gydmarol ieuangc gyd à Sarah, merch i William a Sarah Reid, Ponkey; a bu y briodas yn llwyddiant yn mhob ystyr. Cam pwysig yn hanes bywyd dyn ydyw priodi. Nid ymrwymiad misol neu flynyddol ydyw hwn, ond ymrwymiad am oes. Gwell i ambell bâr fuasai(peidio ymuno â'u gilydd o gwbl. Ac addefir mai y fendith neu y felldith dymhorol fwyaf i ddyn ydyw priodi gwraig. Hi yw yr agosaf atfco ; gan hyny ganddi hi y mae'r gallu penaf ar y ddaear i fod yn gysur neu yn annghysur iddo. " Pwy a fedr gael gwraig rinweddol ?