Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVI.] CHWEFEOE, 1902. [Ehif 2. GALWAD. YE EFENGYL. Esay 55. 1—3. (Parhad o tu dalen 6). UEFYD, y mae Iachawdwriaeth Ehad Eas Duw i bech- |1 aduriaid yn cael ei chydmaru, nid yn unigi ddyfroedd, 1 ar gyfrif ei chyflawnder, ei chyffredinolrwydd, ei rhadlonrwydd, ei hiachusrwydd, a'i nhodweddion glan- haol i'r enaid,—ond cydmarir hi hefyd i wledd ddanteith- iol ar gyfer rhai newynog. " Prynwch wìd a llaeth, heb arian, ac heb werth." "Bwyttewch yr hyn sydd dda, ac ymhyfryded eich enaid mewn brasder." Gwyddom mai bendithion tymhorol oedd bendithion yr hen gyfamod. "Gwlad yn llifeirio o laeth a mel," a addawodd Duw i'r Israeliaid yn etifeddiaeth, os cadwent hwy delerau y cyfamod hwnw." " Os ufudd ac ewyllys- gar fyddwch, daioni y tir a fwyttewch." Addawodd Duw fendithào cnwd y maes iddynt; llwyddo llafur eu dwy- law yn eu meusydd, eu gwinllanoedd a'u perllanau, a chynydd gwastadol ar eu hanifeiliaid. Felly yr oeddynt i gael cyflawnder o yd a gwin, " llaeth a mêl," a stoc dda o anifeiliaid breision at eu gwasanaeth. Naturiol iawn gan hyny oedd i'r prophwydi, wrth rag- fynegi iddynt am fendithion ysprydol Duw dan yr efen- gyl, eu gosod allan drwy gydmariaethau o'r bendithion tymhorol y gwyddai yr Israeliaid am danynt, ac a fawr- brisid yn eu golwg. A pha gydmariaethau gwell a allas- ent gael ? " Arglwydd y lluoedd a wna yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win ; o basgedigion bresion, a gloyw-win puredig." Gwledd ysprydol yr efengyl er diwallu anghenion ysprydol yr enaid