Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXVI.] IONAWE, 1902. [Ehif 1. AE DDECHEEU BLWYDDYN NEWYDD. DEWY fawr drugaredd Duw wele ni yn cael y fraint o ddechreu blwyddyn newydd. A'n dymuniad ydyw ar iddi fod y flwyddyn fwyaf fendithiol i bawb, o blith yr holl flynyddoedd a dreuliasom eisoes ar y ddaear. A thu ag beri iddi fod felly, i bawb o honom a gaiíf y fraint o'i byw, buddiol fyddai bwrw golwg yn ol, ac ystyried pa ddefnydd a wnaethom o'r cyfleusderau a:r rhagorfreintiau a ganiattawyd i ni ar hyd y flwyddyn ddiweddaf ; pa le y buom yn ddiffygiol yn nghytìawniad ein dyledswyddau lluosog ac amrywiol,—pa bethau a adawsom heb eu gwneuthur o'r íryn a ddyiasem ei wneuthur, —a pha bethau a wnaethom ar na ddy lasem ei wneuthur. "Edrych dy ffordd yn y glyn, gwel beth a wnaethost," sydd annogaeth ysgrythyrol dra theilwng o'nljylw. Anmhosibl "galwdoeyn ol " er dadwneyd unrhyw weithred a chamgymeriad y buom euog o honynt ; etto nis gallwn ymddwyn yn deilwng o ddynion, heb son am gristionogion, oddi eithr i ni alw ein hunain i gyfrif am ein gweithredoedd yn y gorphenol, a thalu ystyriaeth ddwys i'n holl ddiffygion a'n colliadau, pa un bynnag ai diffygion moesol yn ein bywyd crefyddoi, a'n hymwneyd uniongyrchol a gwasanaeth yr Arglwydd, a'i ynteu diffygion a chamgymeriadau yn nglyn a'n trafodaeth a'r byd hwn, a'n hymwneyd a'n cyd-ddynion. Ac o dalu ystyriaeth ddwys iddynt—benderfynu yn nghymorth gras Duw ddiwygio yn ein ffyrdd, » dwyn ein holl ymarweddiad i gyd-gordiad gwell â chyfraith yr Ar- glwydd, a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Mae pawb o'n darllenwyr wedi cael eu harbed nes gweled y flwyddyn 1902 wedi gwawrio arnom. Mae