Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXV.] RHAGFYR, 1901. [Rhif 21. AIL-ENEDIGAETH. (Parhad o tu dalen 163). II. Beth a olygir wrth ail-enedigaeth ; a'r anghen- rheidrwydd am dano er myned i mewn i'r deyrnas. Gair cymhariaethol ydyw ail-eni, yn dynodi y cyf- newidiad grasol a weithredir ar egwyddor, calon. ac ym- arweddiad dyn, trwy adnabyddiaeth o'r efengyl a ffydd yn Nghrist. Megis y mae dyn yn ei fabandod yn cael ei eni i'r byd naturiol yn yr enedigaeth gyntaf, felly yn yr ail-enedigaeth fe'i genir ef mewn ystyr ysprydol i deyrnas Dduw ; yr hon, fel y sylwyd yn barod, sydd yn deyrnas ysprydol o ran ei Brenhin, ei deiliaid, ei chyf- reithiau, a'i bendithion. Felly, y mae'r enedigaeth gyn- taf yn enedigaeth naturiol, neu yn ol y cnawd ; a'r ail- enedigaeth yn un ysprydol, neu yn ol a thrwy yr Ys- pryd. Arferir amryw eiriau neu dermau ysgrythyrol eraill o'r un ystyr âg ail-eni,—megis bywhau, adnewyddu, creu o newydd yn Nghrist Iesu, enwaedu y galon, calon newydd ac yspryd newydd, troi at Dduw, edifarhau a dychwelyd oddiwrth bechod, &c. Mae'r cwbl yn golygu bron yr un peth âg ail-eni o ran egwyddor, a'r oll yn effaith adna- byddiaeth o wirionedd yr Efengyl a ffydd yn Nghrist. Yr ydym ni oll wrth natur yn feirw mewn pechod, yn farw o ran cariad at Dduw, hyfrydwch yn ei waith, ac o ran ufudd-dod i'w orchymynion ; ac yn farw i bob sanc- teiddrwydd buchedd. Eithr yn fyw i bob drygioni ; y galon yn llawn gelyniaeth a gwrthryfel yn erbyn Duw a'i wirionedd ; y serch a'r ewyllys yn ymhyfrydu mewn trachwant, twyll, ac anghyfiawnder,—yn byw mewn 12