Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•JLi Jt° Cyf. XXV.] TACHWEDD, 1901. [Rhifh. AIL-ENEDIGABTH. "Oddieithr geni dyn drachefn ni ddichon efe weled teyrnas Dduw."—Ioan iii. 3. BETH bynnag oedd rheswm Nicodemus dros ddyfod at yr Iesu liw nos, daeth atto fel dyn cydwybodol ac ymofyngar, adn. 2. Ymddengys ei fod yntau yn disgwyl rhan yn nheyrnas y Messiah drwy ei berthynas ag Abraham ; ond y mae Crist yn y testyn hwn yn torri i lawr ei ddisgwyliad a'i obeithion. Ac er fod Nicodemus yn " ddysgawdwr yn Israel," a bod yr Hen Destament yn arfer cyffelyb gymhariaethau, etto y mae sôn am '' eni dyn drachefn," neu ei ail-eni, yn swnio yn rhyfedd yn ei glustiau : adn. 4. Mae y pwngc pwysig yma yn haeddu sylw manylaf pob dyn ; cymharer adn. 7, â'r testyn. I. Natur y deyrnas a grybwyllir yn y testyn. II. Beth a olygir wrth ail-enedigaeth ; a'r anghen- rheidrwydd am dano er myned i mewn i'r deyrnas. I. Natur y deyrnas a grybwyllir yn y testyn. Mae teyrnas Dduw yma yn golygu teyrnas, neu fren- hiniaeth Crist, yr hon y mae Efe yn teyrnasu arni ac ynddi. Efe yw ei Brenhin a'i Phen-llywodraethwr. Geiwir hi hefyd yn " eglwys y Duw byw," oblegid y mae Efe yn trigo ynddi,—-yn Gynhaliwr ac Amddiffynydd iddi. Brydiau eraill gelwir hi yn deyrnas nefoedd, oblegid ei bod yn ysprydol a nefol o ran ei nhatur. Mae y deyrnas hon i'w hystyried megis yn ddwy dalaeth,—rhan o honi ar y ddaear, a'r rhan arall yn y nefoedd. Bphes. 3. 15. Heb. xii. 22, 23. Dat. v. Ö. Corph Crist ydyw,—yr eglwys a bwrcasodd efe â'i briod waed. Eph. v. 25, 27. 11