Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Te Tswe&y»» Cyf. XXV.] HYDREF, 1901. [Rhif 10. ANNBRCHIAD Y CADEIRYDD YN NGIIYN- NADLEDD FLYNYDDOL, 1901. NID wyf yn meddwl y gallwn gael testyn mwy c/f- addas i'r Gynadledd na'r fendith a roddodd Iesu Grist i'r disgyblion y dydd cyntaf o'r wythnos hyth- gofiadwy hwnw,—dydd yr Ädgyfodiad. "Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnw o'r wythnos, a'r drysau yn gauad lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iuddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt Tangnefedd i chwi. Ac a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i ystlys. Yna y disgyb- lion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi; megis y danfonodd y Tad fi yr wyf finau yn eich danfon chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt ac a ddywedodd wrthynt, "Derbyniwch yr Yspryd Glan." Llefarodd yr un geiriau ychydig yn flaenorol pan ar adael ei ddisgyblion. '' Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd, fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fì yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon ac nac ofned." Gwelir oddiwrth ddull yr Iesu yn Uefaru, ac yn rhoddi Tangnefedd i'w ddisgyblion, fod hyny yn hanfodol i gyn- ydd y disgyblion, ac yn sylfaen a sicrwydd llwyddiant ei deyrnas yn y byd. Ac y mae yn aros felly hyd bytb, hyny yw, i'r graddau y bydd yr eglwys, neu aelocl, yn yn meddu y tangnefedd hwn, i'r graddau hyny y bydd llwyddiant yr eglwys neu yr aelod hwnw. Da y gwydiai yr Iesu fod unarddeg o ddisgyblion mewn Tanguefcdd yn fwy o werth nag un-myrddiwn-ar-ddeg a chynen ac ym- 10