Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

S IllTüLYSS Cyf. XXV.] MEDI, 1901. [Rhif 9. Y DEFNYDD DDYLEM WNEYD O'N BEDYDD. NODIADAU AE EHUF. VI. 3, 4. (Parhad o fcudal. 116.) HEFYD, y mae ein hufudd-dod i Fedydd yn broíìes gyhoeddus ein bod yn marw i bechod ac yn codi i fyny i fyw buchedd newydd—sef " byw i Dduw." Gwel adnodau'r testyn. Anmhosibl camddeall meddwl yr apostol yn y geiriau hyn. Ei brif bwngc ydyw dangos natur y broffes a wnaethom, a beth yw ein rhwymedigaeth ninnau yn ngwyneb y broffes hono. Mae marwolaeth i bechod ac adgyfodiad i fywyd newydd neu i "newydd-deb buchedd," yn cael ei arwyddhmio yn ein bedydd yn llythyrenol. Ac os ydym wedi marw i bechod, yna yr ydym, yn ol ymresymiad yr apostol, wedi ein rhyddhau oddi wrth bechod, —'' Canys y mae yr hwn a fu farw (i bechod) wedi ei ryddhau (Gr. gyfiawnhau) oddi wrth bechod." Cyn ein dyfod at Grist trwy ffydd ynddo, yr oeddym o dan lywodraeth pechod ac yn ufudd iddo yn ei chwantau," 1 Ioan 2. 16. Yr oeddym yn ei garu ac yn hofíì byw ynddo ; ac oblegid hyny, yr oeddym yn aros yn gaethion i bechod, dan ei arglwyddiaeth, ac felly yn aros dan ei gondemniad, lihuf. vi. 23 : viii. 13. Mae ystyriaeth briodol o hyn yn llanw y meddwl o euogrwydd ac ofn, Heb. 11. 15. Ac yr ydym yn analluog i ryddhau na gwaredu ein hunain. Ond amcan mawr dyfodiad Crist i'r byd oedd ein gwaredu, ein prynu, neu ein rhyddhau oddiwrth bechod, Math. 1. 21. Ac er mwyn cyraedd yr amcan hwn, efe a'i rhoddes ei Hun drosom, gan ddioddef marwolaeth a chosp yn ein