Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fe lCmwm^BB Cyf. XXV.] AWST, 1901. [Rhif 8. Y DEFNYDD DDYLEM WNEYD O'N BEDYDD. NODIADAU AB RHUF. VI. 3, 4. YPWNGC sydd gan yr Apostol yn yr adnodau ydyw— Dangos y rhwymau sydd ar y credadyn bedyddiedig i farw i bechod, a byw i Dduw. Yn gyferbyniol i'r cyhuddiad a ddygid yn erbyn athrawiaeth gras Duw—ei bod yn cefnogi pechadur i fyw mewn pechodau :—pen. iii. 8 ; vi. 1—2. "Na atto Duw:"—gwareded yr Arglwydd ni rhag y fath dybiaeth : oblegid un o brif ddybenion ein hiacbawdwriaeth ydyw ein gwaredu oddi wrth bechod ac nid i " drigo yn wastad ynddo.'' Mewn gair, dyma ddy- ben ein hetìwledigaeth, Eph. i. 4 ; ein prynedigaeth, Titus ii. 14 ; ein galwedigaeth, 1 Thes. iv. 7, &c. A dyma hefyd ydyw ein proffes ninnau o'r efengyl, a'n hufudd-dod iddi. Yr hyn y sylwir yn benaf arno ar bwys geiriau y testyn fydd—Ỳ defnyddymarferola ddylai credinwyr ei wneuthur o'u hufudd-dod i'r ordinhad o fedydd. Mae bedydd yn osodiad dwyfol, perthynol i oruchwyliaeth y cyfamod newydd. Ioan oedd y Bedyddiwr cyntaf—"gwr wedi ei anfon gan Dduw'' i fedyddio ydoedd ef. Nid oedd bedyddio personau mewn arferiad dan yr hen gyfamod. Parodd bedydd Ioan syndod mawr ar y dechreu, Math. iii. 3. 5 ; Ioan i. 25. Yr oedd bedydd Ioan "o'r nef," ac íelly yn gyngor Duw. Mae yr esiampl o fedydd Crist yn cadarnhau dwyfoldeb y gosodiad. Math. iii. 13—17 : eiorchymyn i'w apostolion, Math.28. 18—20 : ac arferion yr apostolion o gadw i fyny drefn y commissiwn a dder- byniasant heb newid dim arno, yn profì yr un peth.