Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXV.] GORPHENAF, 1901. [Rhif 7. IESÜ GRIST FEL PREGETHWR. (Parhad o tu dalen 84). YMAE ffaith bwysig arall y rhaid ei chysylltu â Christ fel Piegethwr, sef, mai ei athrawiaesh, neu ei ddysgeidiaeth Ef, ydyw safon uwchaf gwirionedd, o ba gyfeiriad bynnag yr edrychom arno. Nis gellir dywedyd hyn am unrhyw bregethwr arall. Derbyn ei athrawiaeth Ef, a'i efelychu yn ei ddysgeidiaeth ydyw y goreu allodd y dynion mwyaf athrylithgar erioed ei wneuthur, heb feiddio honi gwreiddiolder iddynt eu hunain. Crist ydoedd "y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r byd." Efe ydyw ffynonell pob goleuni, a gwybodaeth, a doethineb. Ni fedd dynion, o honynt eu Imnain, unrhyw oleuni ond yr un sydd wedi deilliaw oddiwrtho a thrwyddo Ef ;— goleuni natur—goleuni rneswm,—a goleuni dadguddiad dwyfol. Crist, yr hwn fel y Gair tragywyddol a ddywed- odd ar y cyntaf—"Bydded goleuni," yw ffynonell fawr y cwbl. Efe fu yn ymddiddan â hen batriarchiaid y cynfyd : ac âg Abraham, Isaac, a Jacob. Ac Efe fu yn dysgu Moses—y Psalmydd—a'r prophwydi. Dywed Petr mai Yspryd Crist oedd yn tystioiaethu yn y prophwydi. 1. Petr 1. 11, 12/ A phan ymddangosodd efe yn y cnawd, ac yr aeth trwy dymhor ei weinidogaeth gyhoeddus, gan gyflawni ei wyrthiau rhyfeddol i brofi ei ddwyfol anfoniad gyd â llawer o briodoldeb y dywedwyd am dano— "Prophwyd mawr a ymddangosodd yn ein plith ;" ac— "Ymwelodd Duw â'i bobl." "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn ;"—yr oedd "yn dysgu ÍTordd Duw mewn gwirionedd." Cododd y gwirionedd dwyfol i safon llawer