Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXV.] MEHEFIN, 1901. [Rhif 6. IESU GRIST FEL PREGETHWR. (Parhad o tu dalen 68). PREGETHAI yr Iesu lawer i'r Iuddewon ar ddamheg- ion. Cofnodir saith o'r damhegion hyny yn Math. xiii. Ac y maent oll yn hynod brydferth ac addysg- iadol ; ac yn cynnwys gwirioneddau syml a naturiol ; ac mor bell ag yr oedd eu hystyr lythrenol yn myned, yr oedd yn eithaf hawdd eu deall a'u hamgyffred, oblegid portreadent arferion cyffredin bywyd y sawl a'u gwran- dawent. Beth sydd yn fwy syml na dammeg yr hauwr ? " Yr hauwr a aeth allan i hau," &c. Felly hefyd dammeg efrau y maes :—yr " had mwstard ;"—y " surdoes ;" y " trysor cuddiedig ;" y " perl gwerthfawr ;" a'r " rhwyd bysgotta." Buasai yn hyfrydwch gwneuthur sylwadau arnynt ; ond rhaid brysio yn mlaen, gyd a dywedyd fod yr amrywiaeth lluosog sydd yn namhegion Crist, yn cyfatteb i amrywiaeth feddyliol ac amgylchiadol ei luosog wrandawyr ; ac yr oedd yn hollol hawdd iddynt ddeall gwirionedd cyntaf (neu lythyrenol) pob dammeg. Nid oedd yr un amaethwr yn mhlith y dyrfa ar na ddeallai wirionedd cyntaf dammeg yr hauwr, a dammeg efrau y maes : na'r un pysgotwr ar lanau mor Galilea ar na ddeallai ddammeg y rhwyd, o ran ei hystyr flaenaf :— ffeithiau cyffredin bywyd oeddynt oll. Ond yr oedd yr ail wirionedd cynnwysedig yn y damhegion hyny yn cael ei gadw yn guddiedig oddi wrth luaws mawr o'i wrandawyr, sef y gwersi mawr ysprydol a íwriadai Crist eu dysgu trwy gyfrwng y damhegion : ni welodd efe yn addas egluro y dâmhegion i neb, na ehymhwyso y gwir-