Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXV.] MAI, 1901. [Rhif 5. IESU GEIST FEL PREGETHWR. (Parhad o tu dalen 52). Y N niwedd ein hysgrif o'r blaen, crybwyllwyd fod yr I Iesu fel Pregethwr yn hynod ffyddlawn a phur i'r gwirionedd ; ac na wyrai oddiwrtho i foddio neb ;— nas gallai wenieithio i, na derbyn wyneb neb. Os gwa- hoddid ef i giniaw neu swper gan ryw wr cyfoethog o'r Phariseaid, ni phetrusai yr Iesu ei argyhoeddi, hyd yn nod pan yr eisteddai wrth ei fwrdd yn mwynhau ei groes- aw ; ac ymdrechai uniawnu ei farn a'i deimladau, hyd yn nod ar draul condemnio arferion a rhodres y rhai a ystyr- ient eu hunain yn ddosbarth uchaf cymdeithas :—" Pan wnelych giniaw neu swpper " (meddai), "na alw dy gyf- eillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymydogion gol- udog ; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti. Eithr pan wnelych wledd, galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion : a dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti; canys fe a delir i ti yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.'' Bryd arall cawn ef yn ciniawa wrth fwrdd rhyw Pharisead gordduwiol (?), yr hwn a ryfeddodd nad ymolchasai yr Iesu yn gyntaf o fiaen ciniaw. Gwybu yr Iesu ei feddwl, ac efe a ddywedodd wrtho,—Yn awr chwychwi y Phari- seaid ydych yn glanhau y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl ; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni. O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd o fewn hefyd ? " &c. Ond ai dyma'r modd yr ymddyga Gweinidogion yr efengyl y dyddiau hyn pan wahoddir hwynt i giniawa neu swppera yn nhy yr Yswain neu'r Pendefig ? Pwy o honynt a feiddiai awgrymu mai fel hyn, neu fel arall y dylent wneuthur ; neu a feiddiai eu hargyhoeddi o'u cam-