Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IB X \w •? Cyf. XXV.] EBRILL, 1901. [Rhif 4. IESU GEIST FEL PREGETHWR. (Parhad o tu dalen 36). flRYBWYLLWYD yn barod mai yr un genadwri oedd U gan yr Iesu i'w phregethu ag oedd gan ei ragflaen- ydd—Ioan Fedyddiwr, sef galw am Edifeirwch ac am Ffydd, —y Ffydd hono sydd bob amser yn cynyrchu Ufudd-dod. " Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nef- oedd." " Edifarhewch, a chredwch yr efengyl." Con- demniai annghrediniaeth ac anedifeirwch yn mhawb ar ol unwaith dystiolaethu y gwirionedd iddynt. "Onid edifarhewch, chwi a ddyfethir oll yr un modd." " Gwyr Ninefe a gyfodant yn y farn gyd a'r genhedlaeth hon, ac a'i condemniant hi," &c. "Oni chredwch mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau." Y mae Cristionogaeth ymarferol yn dechreu mewn Ffydd ac Edifeirwch sylfaenedig ar dystiolaeth yrEfengyl, ac i barhau yn mlaen ar hyd yr un llinellau. Y mae teyrnas nefoedd yn agos yn mha le bynnag y pregethir efengyl Crist; ac y mae y mynediad i mewn iddi, a byw ynddi, yn dibynnu ar edifeirwch tu ag at Dduw, a ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist. Egluro hyn, a chymell hyn ar bawb o'i wrandawyr, oedd nod mawr cyfeiriol gweini- dogaeth Crist fel Pregethwr. A dyna hefyd oedd natur y weinidogaeth a'r genadwri a roddes efe yn ngenau ei apostolion wedi hyny : a thra y pery ei orchymyn ef mewn grym, i bregethu yr efengyl i bob creadur, nid oes angen, ac ni ddylid, newid dim ar nod ac amcan y weinidogaeth a'r genadwri hon. Gall amser ac amgylchiadau yn hanes cenhedloedd y byd, newid ac amrywio llawer yn ngraddau eu gwareidd-