Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXV.] MAWRTH, 1901. [Rhif 3. IESU GRIST FEL PREGETHWR. " Ac ar ol traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, gan bregethu efengyl teyrnas Dduw; a dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd ; edifarhewch a chredwch yr efengyl." —Marc i. 14—15. YN ei demtiad yn yr anialwch, gwrthodasai yr Iesu holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant am syrthio i lawr i addoli Satan. Gadawodd yr anialwch am y trefi a'r dinasoedd a'r pentrefi ; y manau hyny yr ymgasglai y bobloedd. Elai yn mlaen i orchfygu pob gelyn ac an- hawsderau, ac i geisio, ac ennill, ei deyrnas a'i bobl ei hun o blith dynolryw colledig. Ei arf at y frwydr fawr ydoedd, nid y cleddyf angeuol, ond Efengyl o newyddion da ; Ei ddull a'i drefn ydoedd, nid arwain byddin o filwyr arfog, ond hau yr "had da " yn mhob man lle yr elai. A'r modd y dygai ei waith yn mlaen ydoedd, nid gyda thrwst a therfysg rhyfelgyrch ar faes y gwaed, ond trwy wreiddiad dystaw y gwirionedd dwyfol yn nghalonau dynion. Cychwynodd y Dysgawdwr hwn allan ei hunan, gan ddechreu pregethu. Ennillodd ychydig ddisgyblion, ac a'u dysgodd hwy,. gan eu hanfon hwythau allan i bregethu. Yr un genadwri oedd gan Grist a'i ddisgyblion i'w chy- hoeddi ag oedd gan Ioan Fedyddiwr—"Edifarhewch, canys nesaodd teyrnas nefoedd." Ýr edifeirwch sydd tuag. at Dduw, a'r ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, oedd, ac ydyw, ac a raid fod elfenau hanfodol pregethu yr efengyl er dwyn eneidiau i gymod â Duw. Cynnwysir y ddau air hyn,—y ddwy weithred hon-—, yn holl bregethau Crist, a'i apostolion, sef Edifarhau a C.hredu. Pa le bynag yr elent, a phwy bynag a'u gwran-