Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1t *$p Cyf. XXV.] CHWEFROR, 1901. [Rhif 2. HUNAN-YMWADIAD, A CHODI Y GROES. NODIADAU AB MATH. XVI. 24. (Parhad o tudalen 3). (3) Y mae codi y groes yn golygu hefyd fod yn fodd- lawn i ddioddef drwg-driniaeth y byd, ac erlidiau o achos enw Crist ; hyd yn nod golli y bywyd naturiol fel merthyr, os bydd raid, yn hytrach na'i wadu. Pan fyddo eglwysi Crist yn cacìw i fyny burdeb athrawiaeth ac ordinhadau yr efengyl, gan fod yn ffydd- lawn i argyhoeddi y byd o'i gyfeiliornadau a'i lygredigaeth, —eithriadau anfynych iawn ydyw iddynt gael nemawr o barch gan y byd. Ceir un engraifft o'r eithriadau hyn yn Actau 2, 47, lle y dywedir fod yr eglwys yn Jerusaîem yn moli Duw, " a chael ffafr gan yr holl bobl." Y rheswm mawr am y ffafr hwnw ydoedd, fod gwyrthiau ac arwyddion rhyfeddol Diwygiad mawr y Pentecost wedi taraw yr holl wlad o amgylch â syndod nes diarfogi am am dymor, bob ymosodiad ar y disgyblion, a pheri i annuwioldeb gau ei safn. Ond dengys penod IV, mai am dymor byr iawn y parhaodd y ffafr a'r llonyddwch hwnw, oblegid taflwyd Petr ac Ioan i garchar am bregethu yr Iesu a'r adgyfodiad o feirw. Ac o ddrwg i waeth yr aeth pethau ar ol hyny : lladdwyd Stephan ; " a bu yn y dyddiau hyny erlid mawr ar yr eglwyt oedd yn Jerusalem ; a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Judea a Samaria, ond yr apostolion." Dysgai Crist ei ddisgyblion i beidio disgwyl dim arall; ac erlid y saint ydyw arfer y byd pan ymosodant ar ei bechodau. Ond os ceir yr ©glwysi yn ymlygru gyd a'r byd, trwy gyd-redeg ag ef yn ei chwant-