Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥e Tmmmttfm® Cyf. XXV.] IONAWR, 1901. [Rhif i. HUNAN-YMWADIAD, A CHODI Y GEOES. NODIADAU AR MATH. XVI. 24. (Parhad o tudalen 179;' Cyf. XXIV.) II. Beth a olygir wrth godi y groes, a chanlyn Crist. Y mae yn ffaith hynod na wneir un defnydd o'r gair " croes," na " chroeshoelio," ynyr Hen Destament ; tra y defnyddir hwynt yn fynych yn y Testament Newydd, yn enwedig gan y pedwar EfengyJwr. Canolbwynt mawr dioddefiadau ein Gwaredwr ydoedd dioddefìadau y groes. Gwelai Ef y groes yn yr arfaeth foreu. Ar ei ffordd i'r groes yr oedd pan y cymerodd ei eni o wraig yn Methlehem Juda. Ymgydnabyddodd o ran ei feddwl â ffeithiau mawrion y croeshoelio ar Galfaria yn mhob cam o'i fywyd :— " Pinacl ei íẃriad oedd pen Calfaria," a thrödd wirionedd dyfnddwys dioddefaint y groes, yn wersi ymarferol yn ei athrawiaeth—hwyrach cyn i'r un saer coed estyn ei linyn ar y goeden o ba un y gwnaed hi. Ac mor wir ag y rhagwelai Efe y groes hono yn cael ei dodi ar ei gefn briwedig i'w dwyn i ben Golgotha, ac mai llwybr y groes oedd ei lwybr ef trwy ddyffryn daros- tyngiad er cyrhaedd y llawenydd a'r gogoniant a osod- wyd iddo, —felly, mor wir a hyny y gwyddai yr Arglwydd Iesu na allai neb o'i ddisgyblion ei ddilyn Ef ond ar nyd llwybr cyffelyb, ac y caem ninnau felly fwy na digon o groesau i'w codi a'u dwyn yn barhaus mewn trefn i gyr- haedd y gogoniant addawedig i ni. Dyna y rheswm pa- ham y dywedai—" Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ym-