Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyp. XXI.] TACHWEDD, 1897. [Ehif 11. Y DEUDDEG D.ISGYBL. Simon Petr.—(Parhad o tu dalen 14.8 J. 2. Yr oedd Petryn ymadroddwr parod a rhwydd. ■^TpsRIN y gwyddai am eiriau Solomon—"Fod amser i ^Pw siarad, ac amser i dewi;"—ac, hwyrach, ei fod ar rai ^S* adegau jyn rhy barod i siarad. Gallai siarad yn Dghanol gwyrthiau synfawr a rhyfeddol. pan fyddai eraill wedi eu llyngcu i fyny gan syndod brawychus nes attal eu hanadl. Gallaisiarad yn nghanol gogoneddusrwydd y Gweddnewidiad ar y mynydd, neu ynteu cyn cyfodi oddi ar y Swper a gyfranogodd ein Hargiwydd ddiwèddaf ar y ddaear cyn y croeshoeliad. Yn yr oruwch-ystafell hefyd, ar ol esgynia Crist i'r nefoedd, atto ef yr edrychai y disgyblion fel genau cyhoeddus tros y lleill—fel blaenor y rheithwyr ; a diameu nas gellid dewis ei well o'u mysg, fel un gonest. - gwyneb-agored, a di-dderbyn-wyneb, yr hwn na phetrusai am eiíiad i ddatgan yn glir yr hyn ddeuai i'w feddwl, hydyn nod pan olygai hyny wrthwynebu yr Athraw Mawr, a'i annog i drugarhau wrtho ei hun, ac ymwrthod â'r syniad o gael ei roddi i farwolaeth waradwyddus gan yr Iuddewon' Fpdd bynnag, gan nad faint o gamgymeriadau a wnaeth, o ddiííyg aeddfedrwydd barn,a gwybodaeth ar y cyntaf,— yr oedd parodrwydd a rhwyddineb ei ymadrodd yn elfenau cymwys iawn ynddo pan sancteiddiwyd y doniau hyny gan yr Yspryd Glân, ac y dderbyniod^ oìeuhi ysprydoliaeth ar ddydd y Pentecost, ar gyfer y gwaith mawr.a ymddiried- wyd iddo fel apostol i Grist. Meddai ar gymwysderau i fod yn arweinydd poblogaidd, daẁh ymadrodd rhwydd a naturiol, a pharodrwydd gwastadol i weithredu yn egwydd- orol oddiar argyhoeddion dwfn yh ei feddwl/a phender-