Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Gyf. XXI.] HYDREF, 1897. [Rhif 10. Y DEUDDEG- DJSGYBL. (Parhaâ o îu dalen 131/. Simon Petr. \jfëk R adeg y cyfarfyddiad cyntaf â'r lesu, nid ym- .Jfè\. ddengys ddarfod i Petr ei ddilyn yn uniongyrchol, c-C^y^ er yn ddiau iddo dderbyn argraffìadau cryfion ar ei íeddwl mai Efe ydoedd y Messia. Aeth adref mewn dwys íyfyrdod ar yr hma glywsai gan Grist; a dychwelodd at •ei gwch a'i rwydcít i ddiljn ei alwedigaeth. Fodd bynag, daeth yr adeg yr oedd Crist i ddechreu o ddifrif ar ei weinidogaeth gyhoeddus, a dewis deuddeg disgybl i fod yn ganlynwyr cyson iddo. Ac fel Un yn gweithic bob carn yn mlaen yn unol â rhaglen ddwyfol.fac yn meddu cyflawn oruwch reolaeth aryrholl amgylchiadau, a'r gwaith oedd i'w gyfiawni.—Efe a ddaeth at ian mor ŵalilea a thyrfa yn ei ddilyn, pryd y canfu Petr gyd a ei frawd Andreas yn eu llong fechan yu golchi eu rhwydâu, ar ol ymboeni ar hyd y nos flaenorol heb ddal dim ; ac efe a aeth i mewn i'r llong attynt, gan ddymuno arnynt wthio ychydig oddiwrth y tir rhag i'r dyrfa (mae'n debyg) wasr(U gormod arno, fel y gallai gael gweîl mantais i bregethu i'r bobl ar j lan. Diau nad oedd ar yr Athraw mawr angen am well pwlpud na chwch pysgotU Petr, na chynnulleidfa mwy awchus i wrandaw y geiriau grasusol a ddyfèrai dros ei wefusau, nag a safai ar y lan o'i flaen mewn awyrgylch glir, o dan ífurfafen lâs, ac " yn ngwyneb h:ml—llygad goleuni :"—golygfa ddigon barddonol i danio awen cerub- iaid i gyfansoddi molàwd newydJ i Brynwr y byd, ac anthemau i'w canu o amgylorh yr orsedd wen gan ysprydion gwynion y. gwawl. Ar derfyn yr oedfa, ebai efe wrtb. Sìmon, " Gwthia i'r dwfa, a bwriwch eich rhwydau am helia." " O Feistr,"