Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXI.] MEDI, 1897. [Rhif 9. Y DEUDDEG DISGYBL. (Parhad o tu dalen i1 $J. Simon Petk. R ol y sylwadau cyffredinol a wnaed ar y Deuddeg- ^li Disgybl yn y rhifynau blaenorol, nid annyddorol, yn ddiau, gan y darllenydd fyddai ychydig sylwadau arnynt bob yn un ac un, er mwyn olrhain ychydig i'w hanes, a sylwi ar neillduolion eu cymeriadau; a chawn ddechreu gyda Simon Petr. Gelwir ef weithiau ar yr enw hwn, bryd arall yn •' Simon mab Jona," brydiau eiaill yn " Petr," ac weithiau yn " Cephas." Nis gwyddom ddim am ei deulu, amgen na mai pysgotwr oedd ei dad, a bod iddo^ frawd a'i enw Andreas, yr hwn a fu yn gyfrwng i'w ddwyn at yr Iesu. Yr oedd yn enedigol o Bethsaida, pentref rieu ddinas fechan ar yr ochr orlìewinol i Lyn Genesaret, yr hwn lyn a elwid weithiau yn For Galilea, a phryd arall yn For Tiberias. Gerllaw yr oedd bryniau cribog yn ymgodi o 800 i 1000 o droedfeddi uwch law arwynebedd y llyn; ac yn fynych rhuthrai y gwynt i lawr rhwng y bryniau, gan aredig y llyn a dyrchafu ei 'donau crychias, nes peri enbyd- rwydd am fywydau y pysgotwyr ar ei wyneb. Yn nghanol golygfevdd rhamantus natur o'i gwmpas y dygwyd Simon mab jóna i fyny ; a gallwn ddychymygu am dano yn fachgen iach, cryf, a bywiog ei natur,—weithiau yn dringo y bryniau serth, bryd arall yn chwareu ar lan y llyn, ac yn ymdrochi yn ei donau brigwynion. Ac erbyn cyraedd cyiîawn oed, wedi dyfod yn ddyn dewr a grymus ; a holl nodweddion natur wresog, fyrbwyll, deimladwy a brwd- frydig wedi llawn ymddadblygu ynddo. A oedd unrhyw anturiaeth bwysig i ymgymeryd â hi ? Yr oedd Simon y parottaf un i wneyd i fyny y cwmni. A