Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXI.] AWST, 1897. [Ehif 8. Y DEÜ'DDEŴ DISGYBL. fParhüd o tei dalen 100J. -N y rhifyn o'r blaen galwasom sylw y darllenydd at v rhif deuddeg, a'r defnydd mynych a wneir o hono yn y Beibl; — fod mur y Jerusalem sanctaidd a welodd loan (Dat. xxi,) a deuddeg porth iddo, yn cael eu gwilio gan dueuddeg angel, ac aTnynt enwau deuddeg Tlwyth I-srael;—"deuddeg sylfaen, ac arnynt enwau deuddeg apostol yr Oen." Y mae hefyd fesuriadau ffugyrol neu arwyddoccaol y ddinas, yn cael eu gwneyd o ddeuddegau ; "*• efe a fesurodd y ddinas â'r gorsen, yn ddeuddeg mil o ystadau" A'i hyd, a'i lled, a'i huchder sydd yn ogymaint. Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain " (144), sef deuddeg waith deuddeg, adn. 16, i7. Dyma y nifer hefyd a seliwyd yn eu talcenau o wasanaeth- wyr Duw o fysg deuddeg llwyth Israel, sef ** cant a phedair adeugain o filoedd o holl iwythau meibion Israel,"deuddeng mil o bob un o'r deuddeg llwyth, Dat. yü. 4. Ae y mae hyn etto yn cyfatteb i'r nifer a welodd Ioan yn sefyll gyd a'r Üen ar fynydd Sion, sef, " pedair mil a saith ugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedi^ yn eu talcenau " (deuddeng waith deuddeng mil), Dat. xiv. 1, 3. Am y "deuddeg sylfaen " oedd i'r Jerusalem Sanctaidd, " ac arnynt enwau deuddeg apostol yr Oen," dywedir y'mhellach eu bod " wedi eu harddu á phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen jaspis ; yr ail, saphir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydcl, smaragdus; y pummed, sardonyx ; y chweched, sardiu.5; y seithfed, chrysolithus ; yr wythfed, beryl ; y nawfed, topazion ; y degfed, chrysop- rasus ; yr unfed ar ddeg, hyacinthus: y deuddegfed, amethystus. A'r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o'r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloew." Dat. xxi. 19, 20, 21.