Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Gyf. XXI.] GORPHENAF, 1897. [Rhif 7 Y DEUDDEG DISGYBL. NI ddewisais i chwi, y deuddeg." Dyma ffrindiau a chymdeithion yr Iesu. Dynion fuont yn ymddi- •<Z&j>~ ddan àg Ef, ac a glywsant y geiriau grasusol a ddi- ferai dros ei wefusau ; dynion fu'n gyfranog i ddwyn pwys a gwres y dydd gyd a'u Hathraw llafurus, y rhai fuont yn «cydrodio ag Ef yn hwyry dydd, tra fyddai Ef yn agoryd iddynt yr Ys^rythyrau. Yr oeddynt gyd ag Efyn nghanol terfysg y ddinas, a gwylient Ef yn nhawelwch seibiant llafur gartref yn Bethania, neu yn y ty yn Capernaum. Dynion fuont yn llyga-id-dystion o'i ddarostyngiad Ef, ac o'i Fawredd ; y rhai a welsant ei weithredoedd nerthol. ac ;i dderbyniasant allu ganddo i wneuthur mwy. Gweisant yr Iachawdwr yn fvw, a dysgasant wersi eu bywyd oddi wrtho ; gweìsant yr Iachawdwr yn marw, a dysgasant oddi wrtho y wers—pa fodd i farw» Dynion wedi eu cymeryd o ganol golygfeydd cyffredin bywyd i sefyil allan fel arwein- wyr yr Eglwys, ac fel prif ymladdwjr 'yn nghadymgyrch fa'wr gwirionedd yn erbyn cyfeiliornad. Ie, dynion oeddynt a alwyd i gyflawni gwaith anfarwol, ac a gyfrifwyd yn deilwng i ddyoddef merthyrdod yu achos Crist. Yn sicr, y mae y sawl a freintiwyd-mor fawr â hyn, ac a alwyd gan ein Harglwydd i safie a gwaith mor bwysig, yn •debyg o fod yn dwyn ynddynt eu hunain ryw nüdwcddau .neillduol ag y byddai o fantais neillduol i ni edrych arnynt, a dysgu gwersi buddioî oddi wrthynt. Gwyddni yr lesu òeth oedd mewn dyn, gwelai yr elfenau cuddiedig a lechai yn nghyfansoddiad meddwl ac yn nghyneddfau eneidiol pawb, a phan aeth ef at y gwaith pwysig o ddewis y deu- ddeg apostol—nid drwy ddigwyddiad diystyr,. neu " ddam- wain ddall" y gwnseth Efehyny. Ac wrth astndio hanes eu bywyd, d)"lem edrych, nid yn unig ar yr hyn a wnaeth- ant, ond hefyd am y rheswm paham y dewiswyd bv,,-