Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyi\ XXI.] MEHEFIN, 1897. [Rhip o. ARWYDDLUNIAU YSGRYTHYROL. (Parhad o tu dalen 73J. WNEIR defnydd helaeth yn y Beibl o wrthddrychau gweledig ac anweledig mewu Natur, íel ffugyrau i ddysgu rhyw wirionedd, neu i ddynodi rhyw ddi- gwyddiadau i gymeryd lie. Fel y syhwd, y mae yr haul yn arwyddlun o ogoniant a nerth ; y ser a ddengys weithiau bersonau mewn awdurdod ; yr enfys yn arwyddiun o gyf- amod trugaredd Duw a'r ddaear, yn sicrwydd na bydd iddo •ei boddi mwyajh a diluw dwfr, ac o olyniaeth reolaidd ei thymhorau. Mewn iaith ffugyrol gelwir Crist yn Seren o Jacob—yn Seren foreu eglur, ac yn Haul Cyfiawnder: a gelwir yr egìwys dan amryw enwau ffugyrol,—%i fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, ac yn ofnadwy fel ílu banerog." Yn yr oes batriarchaidd, nid oedd ond megis gwawr yn torri ; o dan oes gysgodol yr hen oruch- wyliaeth yr oedd yn deg feì y lieuad, a llawer o'i threfniadau ■seremoniol yn caei eu rheoli a'u pennu yn ol cyfnewidiadau y lleuad. Ond 0 dan oruchwyliaeth oieuach a phertìeithiach yr efengyl, y mae yn bur fel yr haul, a'i threlniadau yn fwy sefydlog a digyfnewid, Ac ar ei dyfodiad adref o'r anialwch i wlad ei hetifeddiaeth fry, fe'i gweiir yn ofnadwy ogoneddus fel llu banerog. I osod alian ei safle, ei gwaith a'i dylanwad yn y byd, cyffelybir hi gan Grist i "oleuni y byd "—" dinas ar fryn," a " halen y ddaear;'' a chan Paul yn " golofn a sylfaen y gwirionedd." Yn nyddiau Dafydd a Solomon fe ddaeth jerusaiem, neu Sion, i gael ei hystyried yn " degwch bro," ac yn "ilawenydd yr ho!I ddaear." Hi oedd prif ddíîias gwiad yr addewid. Yno y rhoddes Duw goffadwriaeth o'i enw, ac arwyddion o'i breswyliad yn mysg ei bobl,—" Ei babelî