Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXI.] MAI, 1897, [Rhif 5. GENESIS xxxvn—23. 24, (Parhad o tudalen 52), ND nid ydynt i gyd, yn cydweled i ladd Joseph ; y mae Reüben, y mab hynaf, yn eu cynghuri i beidio trochi eu dwylaw yn ngwaed eu brawd, ond yn hytrach na hyny, y; mae efe yn cynyg 'ddynt ei daflu yn íyw i un o'r pydewau, a'i adael yno i farw o newyn, ond y mae yn anhawdd iawn Jgwybod pa un ai marw o newyn, ynte cael ei roddi i farwoíaeth ar unwaith fyddai fwyaf tsmwyth—gallem dybto ar siarad y brod\r mai marw o newyn yn y pydew, fyddai oreu, ac yn llai beius. Ond beth bynag am hyny, y maent oll yn syrthio i mewn i gynllun Reuben. " A bu pan ddaeth Joseph at ei írodyr, iddynt ddiosg y siacced {raith oddi am Joseph." Y maent am roi eu cynllun mewn gweithrediad yn ddioed. ''A bu, pan ddaeth Joseph atynt;"—y maent yn cydio gafael ynddo yn y fan. Peth anhawdd iawn yw gwybod, pa un, neu pa rai o honynt, ddarfu osod dwylaw arno yn gyntaf: gallwn fod )n sier na ddarfu Reuben na Judah. Yr oedd gormod o deimlad brodyr ynddynt (er mor lleied ydoedd), i wneyd hyny. Y mae yn lled debyg mai y rhai pdrottaf i osod dwylaw arno oedd Simeon a Lefì ; Simeon yn benaf fe aìlai. Ac hwyrach fod Joseph yn cofio hyny am dano yn mhen amser ar ol hyn vn yr Aipht, pan yn rhoddi Simeon yn y carchar, i'w gadw fel gwystl am ymddangos- iad Benjamin y tro wedi hyn y deuent i waertd ì'r Aipht. Simeon a Lefi, yn ol tystiolaeth eu tad oedd y ddau greulonaf o'r holl frodyr. Ond beth bynag am hyny, ti ddiosg wnaethint o'i siacced fraith. Yr oedd ymddygiad a theimlad brociyr Joseph tuagato, wedi eu cwbl estroneiddio. Y maent wedi