Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXI.] MAWRTH. 1897, [Rhif 3. GENESIS xxxvn—23. 24. "" A bu, pan ddaeth Joseph aî eifrodyr, iddynt ddìosç ei siaced oddi am Joseph, uf y siacced fraith ydoedd am dano ef A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a'r pydew oedd wag heb ddwýr ynddoP -N y benod hon, a'r penodau sydd ol a blaen iddi, ni gawn un o'r hanesion mwyaf dyddorol sydd o fewn y Beibl: sef hanes Joseph» Pe ceisiem ni wneyd adroddiad o'r hanes hwn i chwi, ni fyddai hyny ond anurddo y gwir hanes, yr hwn sydd wedi cael ei osod i lawr, mor hardd, mor wych, ac mor effeithiol. Y mae yn anmhosibl ei osod allan yn well a mwy darlìen- adwy nag fel y gwnaed gan Moses ei hunan. y mae yr hanes yma yn werth ei ddarllen a'i fyfyrio, drwy yr hyn y ceir pleser ac adeiladaeth gan ei fod yn llawn c addysgiadau gwerthfawr. Y mae hanes genedigaeth Joseph i'w weled yn y 30 benod, ond nid oes bron gry- bwylîiad am ei enw ar ol hyny, hyd y benod hon, ac yma mewn gwirionedd y mae ei hanes yn dechreu, a gellir dweyd ei fod yn lled gyflawn ant dano, o'r adeg yma hyd ei farwolaeth, O'i enedigaeth hyd yn 17 oed ni ddywedir dim yn ei gylch ond o hyny yn mlaen, fe geir llawer iawn am dano, ac y mae y cwbl a ddywedir yn fuddiol i'w ddarllen, ei gofio, a'i fyfyrio, ac uwchlaw'r cwbl, y mae yn werth i ddarllenydd ieuangc yr " Ymw elydd " geisio ei efelychu, a dilyn ei esiampl. I. Cymeriadany tes/yn,—Joseph ä'ì frodyr. II. Gweithredoedd y testyn,—Diosg siacced Joseph, a'i daflu i'r pydew.