Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XX.] BHAG. 1896. [Rhif 12. ADGOF UWCH ANGHOF. Y Diweddar Stephen Jones, Ponciau, Rhos. (Parhad o tudalen 163). U y ddadl fawr rhwng Campbell a Robert Owen yr Anffyddiwr, yn foddion i'w ddwyn i sylw mawr yn y byd crefyddol, yn neillduol yn America, a chynydd- odd ei blaid yn gyflym. Ac heblaw bod yn bregethwr poblogaidd, ac yn ddadleuydd enwog ar y Ilwy/anau; gwnaeth ddefnydd helaeth o'r Wasg. Dygodd allan Gylchgrawn Misol a elwid " The Christian Bapiìst? ac ysgrifenodd lawer iddo. Dygwyd ei ysgrifeniadau i sylw yn Lloegr yn gyntaf gan y diweddar Wm. Jones, M.A. Llundain ; a bu y ddau yn gohebu llawer a'u gilydd trwy y Wasg. Ond dylid sylwi niai nid yr un oedd golygiadau cyhoeddus Campbeü ar y cyntaf, ag oeddynt pan dorrodd W.- Jones i fyny bob trafodaeth ag ef. A chan fod llawer o gamddefnydd wedi ei wneyd o gyssylltiadau W. Jones â Campbell, a bod amryw yn cyhuddo W. Jones o goleddu cyfeiliornadau Campbell unwaith, a throi ei gefn arnynt wedi hyny,— dodaf }ma sylwedd geiriau W. Jones ei hun ar y mater. " Yn y flwyddyn i834daeth arlunydd ieuaingc o America drosodd i Lundain er mwyn ymberffeithio yn ei gelfyddyd. Bedyddiasid ef gan Alexand2r Campbell, ac yr oedd yn aelod o un o'r eglwysi dan ei ofal. Wedi peth vmholi, daeth o hyd i wybod am danaf fi, a'r eglwys yn Windmill Street, ac apeliodd am aelodaeth yn ein plith ; yr hyn a ganiattawyd iddo ar ol gwneyd yr ymchwiliadau angen- rheidiol. Ac efe a f'u y cyfrwng i 'ddwyn Campell a mmau