Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. €yf. XX.] HYDREF, 1896. [Rhif 10. ADGOF UWCH ANGHOF. Y Diweddar Stephen Jones, Ponciau, Rhos. (Parhad o íudaìen 132). rrv-N LINELLAU amlwg yn ei fywyd crefyddol ef ydoedd %\{ç& Gostyngeiddrwydd. Cyfranogodd yn helaeth o'r <i=í " meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yn Nghrist Iesu." Credai fod " Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ond yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig." Cynyddodd yn ffrwyth- lawn mewn addfwynder ac ofn yr Ärglwydd. Ac mewn haelioni crefyddol a chariad brawdol yr oedd yn wastad yn ìlanw y cymeriad o un yn '" dodi ei einioes dros y brodyr." Digwyddodd fod brawd crefyddol yn ei eglwys o'r enw Robert Williams, yn analluog ar gyfrif henaint, i ddarbod dros ei anghenion tymhorol; ac nid oedd gan yr awdur- dodau gwladol unrhyw gymorth i'w roddi iddo oddigerth ei anfon i'w blwyf genedigol yn Nghorwen a rhoddi lle iddo yn y Tylotty, a hyny a wnaed. Ond nis gallai gwres eariad brawdol Stephen Jones oddef y syniad o adael y brawd crefyddol R. Williams yn nhylotty Corwer.,—a dacw cf un boreu yn codi i fyned yno i'w gyrchu ef yn o!, a ehymerodd eí adref o dan e> gronglwyd ei hun ; a goialodd yn gyson ani ei holl angenrheidiau hyd nes y daeth galwad o'r nef am i R. Williams newid ei gartref daearol am un nefol ; a diau iddo fyned yn nghwmni a than gyfarwyddyd angylion i'r Baradwys fry, i weied y Rrenhin yn ei degwch. Bu i'r goleuni dwyfol a dywynodd i feddwl a chaloa Stephen jones tra ar y ffordd ger llaw porth yr adenedig- aeth, lewyrchu fwy-fwy hyd ganol dvdd, nes canfod o hono trwy ffydd, addewidion mawr iawn a gwerthfawr Duw yn