Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. €yp. XX.] MEDI, 1896. [Rhif 9. ADGOF UWCH ANGHOF. Y Diweddar Stephen Jones, Ponciau, Rhos. {Parhad o tudalen 115). MID yn yr eglwys yn unig ac ymhlith ei frodyr yr oedd ei grefydd yn gweithio i'r golwg, ond yr oedd ^j u ei ffrwythau yn torri allan ar bob llaw, ac nid oedd ei weithredoedd dyngarol a haelionus yn cael eu cyfyngu i gylch ei gyfeillion a'i gydnabod. ond ystyriai fod gan bob un tnewn angen hawl ar ei gydymdeimlad. Yx oedd yn caru dynion yn gyffredinol heb eithrio, llwyth, iaith, na chenedl, pa un bynag ai barbariaid, caethion, rhyddion, -cyfoethogion ai tlodion, a hyny am fod Duw wedi gwneyd " o un gwaed bob cenedl o ddynion i breswylio ar holl wyr.eb y ddaear." Act. xvii, 26. O'r lluaws gofnodion sydd wrth law, gwasanaethed a ganlyn ì ddangos ei yspryd dyngarol :—Ar foreu rhewllyd yn nghanol gauaf daeth dyn tlawd (Gwyddel o ran cenedl) ar ei hynt i'r ardal, a chan ei fod yn newynog ac yn dioddef oddiwrth ddiffyg anadl (asthma) syrthiodd mewn gwendid a blinder ar yr ríeol. Tra yn y cyflwr hwn yr oedd llawer o wyr cyfrifol yr ardal yn myned heibio iddo, fel y Lefìad a'r ofleiriad gynt, gan ei adael i fyw neu farw heb estyn trugaredd iddo. Rhedodd bachgenyn at Stephen Jones a hysbysodd ef am y Gwyddel truenus, ac ar hyny y mae yntau yn gadael ei aelwyd gysurus, yn prysuro at y diodd- efydd ac wedi cyrhaedd y fan y mae yn datgan ei gydym- deimlad ag ef, ond methai hwnw atteb yn ol, er iddo iefaru yn effeithiol drwy ddagrau pan welodd o'r diwedd un yn barod i drugarhau wrtho. Gvvnaeth ran y Samaritan tru- garog iddo drwy ei gymeryd yn ei fraich i'r t), lle y cafodd