Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XX.] AWST, 1896. [Rhif 8. ADGOF UW'CH ANGHOF. Y Diweddar Stephen Jones, Ponciau, Rhos. %^\ YNA'R enw a'r cyfeiriad wrth ba un yr adnabyddid jl^/ gwrthddrych hyn o gofiant, gan bawb o'r trigolion Cs$ts-> oddeutu hanner can' mlynedd yn ol. Gwyddai preswylwyr ardal Rhosllanerchrugog a'r Ponc- iau mai efe oedd gweinidog y Bedyddwyr Albanaidd a ym- gynnullent yn hen gapel diaddurn y Ponciau. Ond ni feiddiodd neb, ac ni fynnai yntau i neb, ddodi y gair "Parch' o flaen ei enw ; ac nid oedd angen hyny ych\iaith, oblegid dangosai yn ddigon cyhoeddus yn ei weithredoedd da, ac yn ei lafur gweinidogaethol—ei fod yn " weinidog da i íesu Grist." Mab ydoedd efe i Roger a Margaret Stephen, Rhuthyn, Sir Ddinbych, a ganwyd ef yn y flwyddyn 1786. Os yw damcaniaeth gwyddonwyr yn gywir—fod gan natur a'i gwrthddrychau anianyddol, trwy gyfrwng y synhwvrau corphorol, fath o allu cyfriniol er cynnorthwyo a pharottoi synneddfau meddwl dyn i dderbyn argraffiadau o bethau mwy sylweddol, y mae yn rhydd i ni gredu fod golygfeydd prydferth Dyffryn Clwyd—ei ddolydd meillionog a rirwyth- lawn,—wedi cario argraff ddaionus a dymunol ar feddwl y Uangc ieuangc fel ag i benderfynu cwrs dyfudol ei fywyd. Yn y cyfnod hwnw nid oedd ysgolion dyddiol wedi eu sefydlu, yn mha rai y gallasai plant gweithwyr gael eu haddysgu, fel yn ein dyddiau ni ; ac yr oedd manteision dysg alìan o gyrhaedd y bobl gyffredin ; ond er yr holl ddiffygion a'r anhawsderau, gwnaeth Stephen ieuangc y defnydd goreu o ysgol natur, er gogoniànt i Dduw, a budd i ddynion. Llwyddodd hefyd i gasglu gwybodaeth gyffreü-