Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XX.] GORPHENAF, 1896. [Rhif 7, NODION BYWGRAFFYDDOL. Hent Weinidogion Rehoboth, Harlech. Edward Humphreys.—{Parhad o íu dalen 83 A ËILLÜUWYD ef yn Henuriad yn Medi 1863 ; ac i gynorthwyo yn yr ordeiniad galwyd am wasanaeth y brodyr Willidm Roberts, Penrhyn a Robei't Jones, Ty Coch, Tanybwlch. Pregethodd y naill ar ddy- íedswyddau yr Henuriaid at yr eglwys, a'r lla.ll ar ddyled- swyddau vr eglwys at yr Henuriaid. Yr oedd gan eglwys Rehoboth erbyn hyn chwech o Weinidogion i'w gwasan- aethu yn yr Arglwydd, a golwg lewyrchus a serchog arni ; yn atteb i ddesgriáad y Psalmydd—" Wele, mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd, &c" Ond yn y flwyddyn ddilynol bu farw y ddau weinidog hynaf, sef O. Humphreys Owen, a John Dafydd ; ac yr oedd Evan Robeits yntau yn heneiddio ac yn llesgau. Collwyd hefyd Wasanaeth John Owen, yr hwn a symudodd i Festiniog fel y sylwyd eisoes. Ac oherwydd fod Morris Rowlands yn trigo yn Llanfair, yr oedd ei ofal gweinidogaethol ef i raddau yn cael ei gyfyngu i'r eglwys yno, fel ag i beri fod gofal trymaf yr achos yn Rehoboth yn disgyn yn naturioi ar ysgwyddau Ed. Humphreys, er y byddai M. Rowlands yn gyffredin yn y cyfeillachau Nos Wener yn cynorthwyo. Fel gweinidog a bugail> llanwodd Ed. Humphreys ei le yn rhagorol. Yr oedd yn hynod ofalus a manwl; edrychai > n ddyfal rhag i un gwreiddyn chwerw dyfu i fyny i beri blin- der, allygru llawer, Disgyblai yn llym a di-dderbynwyneb, gan nad pwy fyddai y troseddwyr, pan fyddai achos ya