Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. €yf. XX.] MAI, 1896. [Rhtf ö. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hen Weinidogion Rehoboth, Harlech. Edward Htjmphreys, Castle House, R oedd E. Humphreys yn ieuengaf o saith o blant a anwyd i Robert Griffith (Dilladwr), Castell Cruise, ai briod Mary Hughes (fel y'i gelwid) ; pa rai fuont yn aelodau gwerthfawr yn Rehoboth am lauer o flynyddoedd. Bedyddiwyd Robert Griffith yn y flwyddyn 1815 gan R. Morgan ; a'i briod Mary Hughes, yn j8i8, gan J. R. Jones. Ystyrid R. Griffith yn gerddor lled wych ; meddai ar lais eithriadol gryf, a chanai ddigon o isalaw (BassJ yn y nodau isaf i gapelaid o gynnulleidfa. Bu ef a'i bnod farw yn Tach 1850, a chladdwyd y ddau yr un diwrnod. Mae y teulu hwn wedi, ac yn bod, yn un o'r leuluoedd mwyaf ffyddlawn, ymdrechol, a gweithgar, trwy bron yr oll o eglwysi y Cyfundeb o'i ddtchreuad hyd yii bresenol. Fel ei dad, dilladwr oedd E. Humphreys wrth ei alw- edigaeth, a bu yn hynod ddiwyd, a lìed hwddianus ynddi. Ymbriododd â Jane Roberts gynt o Eglwys bach. yr hon oedd yn cadw ty i'w frawd G. Uumphre\s, Porthiiiadog ; a bu iddynt amryw o blant, yr hynal o ba rai ydyw Robert Humphreys, un o Weinidogion presenol eglwys Rehoboth. Bu yn Assistant Overseer dros amryw flyn/ddoedd yn mhlwyf Llandanwg, a chyflawnodd ei swycld yn onest, er boddlonrwydd cyftredinol; ac ystyrid ef.yn "wr o gynghor" yn y Vestri blwyfol. Bu hefyd yn aelod o gyngor llyw- odraethol yr Ysgol ddyddiol yn Harlech. Ac er ei fod yn eiddil a gwanllyd o gorph, ystyrid ef 0 ran ei alluoedd a'i