Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XX.] EBRILL, 1896. [Rhif 4. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hem Weinidogion Rehoboth, Harlech. John Owen, Glanymor.—(Parhad o tu dalen 35. HYWBRYD oddeutu y fìwyddyn 1880, symudodd ef IVv a'i deulu oddi yma i ffarmio yn Cwmorthin, Tan-y- ^j1^ grisiau ; tir defaid yn benaf, etto yn cadw amryw wartheg godro ; ond He hyno-cl o flin a thrafferthus yn enwedig yn y gauaf, ydoedd y ffarm hon. Yr oedd gan- ddynt dyaid da o blant iachus, sryfìon, erb\n hyn ; ac ym- unodd y rhiaint yn aelodau yn yr egluys yn Tan-y-grisiau, a'r plant yn llanw lle mawr yn yr Ysgol, a golwg obeithiol arnynt. A tra parhaodd tymhor eu harosiad yn nghvmyd- ogaeth Tanygrisiau, bu john Owen yn cyd-weinidogaethu â'r brawd Wm. Humphreys, mewn cyd-ddealltwriaeth hapus a'u gilydd, a theimladau brawdol a serchog rhyng- ddynt. Yn gweled nad oedd ffarmio yn Cwmorthin yn talu, ac iddo gyfarfod a Huaws o anffodion, penderfynodd symud yn nes i gymydogaeth y Blaen^u i gadw llaethdy, ac adeil- adodd dy anedd eang a chyfleus iddo ei hun a'i deuìu i drigo ynddo, ynghyd a beudai helaeth, ac adeiladau cymwys er dwyn ei fasnach yn mlaen, Ond íel y mae yn ofìdus meddwl, trôdd yr anturiaeth hono allan yn siomiant a cholled iddo : a phenderfynodd geisio ffawd weil mewn gwlad arall, ac ymfudodd ef a'r teulu i Patagonia, lle y cafodd dir i'w arloesi a'i ddiwyllio y'nghanol Uawer o an- fanteision, fel y cafodd ugeiniau eraill yn y ditîaethle anghysbell hwnw yn nghonglau eithaf y greadigaeth. Gweithiodd ef a'r teulu yn hynod galed yno, a Uwyddodd i