Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. <Cyf. XX.] MAWRTH, 1896. [Rhif 3. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hen Weinidogion Rehoboth, Harlech. JOHN OWEN, GlANOIOR. T^fyf AB ydoedd ef i John, a Mary Owen, o Glan-y-Mor: JÍ^/a pa rai fuont yn aelodau ffyddlawn a defnyddiol —$s^ iawn yn Rehoboth am lawer o flynyddoedd. Gwnaethom grybwylliad am danynt yn ein Nodion ar yr hén Weinidog John Dafydd o'r un lle, ac fe gofia y dar- Uenydd fod y ddwy wraig yn chwiorvdd o ran gwaed, yn gystal ag o ran proffes grefyddol. Bu John Owen (hynaf) yn aelod o Rehoboth am hanner can' mlynedd, ac yn flaenor y gân am saith mlynedd a deugain. Nid oedd angen am eî well, a chvvith gennym gofio ei lais mwyn, melodaidd, y'nghyd a'r bywiogrwydd neillduol hwnw a'i nodweddai fel arweinydd y canu. Yr oet'.d hefyd yn gynghorwr gwycb yn y cyngor ; a llanwodd le pwysig fel diacon ffyddlawn yn yr eglwys. Cafodd y mab John, felly, bob manteision crefyddol yn ei ddygiad i fyny ar aelwyd grefyddol, ac yn swn mawl a chaniadau Seion : a bedydd- iwyd ef yn ddyn ieuangc yn 1853 gan ei ewythr John Dafydd. Byddai y swyddogion a'r frawdoliaeth yn Rehoboth yn wastad yn bur ofalus y blynyddoedd hyny ar fod proffes- wyr ieuaingc yn ymarweddu yn deilwng o'u proffes, ac i edrych allan a fyddai yn neb o'r brodyr ieuainírc argoelion defnyddioldeb. Telid mwy o sylw i'r ddyh dswydd ysgryth- yrol o " gynghori ac adeiladu eu gilydd " al.dn o Air Üuw, a dysgid y brodyr yn eu rbwymedigaeth i arfer y ddawn hono er adeiladaeth yr eglwys, yn ol gosodiad y Pen mawr ei hun drwy gyfrwng ei apostolion. A phan glywid brawd