Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XX.] CHWEFROR, 1896. [Rhif 2. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hen Weinidogion Rehoboth, Harlech. wllliam roberts, gla.sfryn. Tp^r AB ydoedd ef i Robert Ricbard a'i wraig—Gwen JJiV^,l Gruffydd,—y rhai oeddynt yn byw yn Bron-y- •^-ät^ gadair, Prysg, Llanfair. Bu farw ei dad pan oedd William yn ieuangc, yr hyn a orfodai i'w fam wneyd ymdrech mawr i gynal ei hun a'i phlant uwchlaw angen, a llwyddodd i wneyd hyny er fod ganddi amryw feibion a merched. Cariodd yn mlaen lasnach helaeth drwy brynu ymenyn yn wythnosol yn amaethdai cwmwd Ardudwy, a myned ag ef i Porthmadog i'w werthu, a bu ddegau o weithiau mewn enbydrwydd am ei heinioes, ac yn llygad- dyst o rai yn colli eu bywyd wrth groesi yn y ferry-ÒoaL Yr oedd yn hen wraig hvnod barchus, ac adweinid hi trwy holl gylch ei masnach wrth yr enw cyffYedin—"Gwen yr ymenyn ; " a chafodd gymorth helaeth Rhagluniaeth i ddwyn i fyny ei mheibion 'a'i mherched yn barchus a chrefyddol. Cedwid vsgol ddyddiol yn Mron-y-gadair—yn llofft y ty pellaf, pan oedd William Roberts yn fa^hgen, ac yr oedd ei rieni a'r teulu yn byw yn y rhan isaf o'r tv: a thrwy hyny cafodd fanteision addysg yn ei dy ei hun a'i fagu yn swn addysg ; achyn troi allan i wasanaethu daeth yn ysgol- haig lled wych, ag ystyried yr amgylchiadau. Ac nid annghofiodd ei ddysg, oblegid gallai ysgrifenu Cymraeg a Saesoneg yn weddol rwydd. Gadawodd yr ysgol ac aeth i wasanaeth Capt Gregory, Bryn Artro, Llanfair, fel garddwr. Yr oedd yn fachgen glandeg a hirdd yr olwg arno ; ac yn lan ei gymeriad y'ngolwg pawb, ac yn naturiol wylaidd a