Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XX.] IONAWB, 1896. [Rhif 1. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hen Weinidogion Rehoboth, Harlech. Evan RoBERTS.—fParhad o tudaîen 179). "íp^EL pregethwr, nis gellir ei restru y'mhlith y dosbarth ^l~rf c),ntaf î n* feddai ar ysgolheig-dod, gwybodaeth ^ò% dduwinyddol, na gallu ymresymiadol ac esbcniadol O. H. Owen ; ac hwyrach nas gellir dweyd fod ei bregethau mor syml ac ymarferol a'r eiddo John Dafydd. Ond, oddieithr ar odfeuon trymaidd y " dau o'r gloch," vr oedd yn fwy bywiog a grymus fel traddodwr na'r un o'r ddau, yn enwedig pan gaffai afael ar ei " hwyl." Yr oedd ynddo lawer o duedd at fod yn " athrawaidd," ac i " egluro " gwahanol ranau o'r Ysgrythyrau fyddai yn dal cyssylltiad â'i destyn. Un o'i ddywediadau mwyaf cyffredin fyddai,— ** Na i cdim ond just agor cil y ddor i chwi ar y pwngc yma, 'gewch chwi ychwanegu eto yn eich medd)liau." Ac wrth dynnu ei gasgliadau arferai ddyweyd yn gyffredin— " Felly gwelwn yn eglur," &c, Meddai ar gôf grymus, a llawer o hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau, a thôn ei ym- adroddion yn tueddu at yr awdurdodol a'r argyhoeddiadol. Cafodd lawero odfaon grymus ag y teimlid llawer o nerth yn ei weinidogaeth, ac nid oedd un amser yn fwy hapus ac effeithiol nag wrth ddarlunio gofal Eli am Arch cyfamod yr Arglwydd pan ddygwyd hi i faes y frwydr yn erbyn y Philistiaid:—" yr hen wr yn eistedd yn ei gadair yn y porth i ddysgwyl rhyw newydd o'r rhyfel,—y gennad yn d'od—"Wel, pa newydd sydd gennyt ?" "Newydd drwg ! -^-mae Israel wedi ffoi o flaen eu gelynion."—yr hen wr yn dal yn weddol. "Beth arall sydd gennyt i'w hysbysu ? " " Dy ddau fab hefyd, Hophni a Phinees, a fuant feirw !"