Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XIX.] RHAGFYR, 1895. [Rhif 12. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hen Weinidogion Rehoboth, Harlech. Evan Roberts.—('Parhad o iudalen 163J. DWEINID ef ar lafar gwlad wrth vr enw " Evan Rhobert, Tanforhesgen " ( " Tanffresgian" ), neu fel y silleba rhai, Glanforhesgen ; amaethdy bychan yn cyffmio ar derfyn fferm Glan-y-mor, ger Harlech. Ganwyd Evan Rhobert yn y fiwyddyn î8oo, raewn ty bychan o'r enw " Doldan Owen," lle yn awr y saif gardd Cae'rffynon, Talsarnau. Efe oedd yr ieuengaf o bump o blant i Robert a Jane Jones. Boddodd ei dad a dau o'i frodyr, y tu allan i Bwllheli tra yn myned a llwyth o lechm o Pentrwyngarnedd ger Maentwrog. Ac oblegid hyny ni chafodd ef nemawr o fanteision addysg yn moreu ei oes, heblaw a ddysgodd ei fam iddo, yr hon oedd yn wraig hynod gall a chrefyddol. Cyfranodd ran ehelatth o'i hysbryd duwiolfrydig i'w mhab Evan ; dysgodd yntau vn dda, a graddiodd yn uchel yn athrofa yr aelwyd. Hefyd bu J. R. Jones yn rhoddi amryw wersi elfenol iddo, ac o dan ei hyfforddiant ef y dysgo'dd efe ysgrifenu. Oherwydd mai gweddw dlawd oedd ei fam, bu raid iddo droi allap. yn dra ieuangc i droi i enill ei fara beunyddiol gyd ag amaethwyr ygymdogaeth. Bu am dymhorau yn gweini yn y Lasynys Fawr a'r Lasynys Fach ; a thra yn hwsmon gyd a'r diweddar Mr. Morgans yn yr olaf o'r ddau le, efe a gariodd y llwyth cyntaf o gerrig i adeiladu " Rehoboth " ; ac hefyd a gludodd ei goed o Ty Gwyn-y- Gamlas, ger Talsarnau ; a'r diweddar ddiacon hybarch Edmund Griflìth o'r Tyddyn Du, pan oddeutu 13 mlwydd,