Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. €yf. XIX.] TACHWEDD, 1895. [Rhif 11. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hen Weinidogion Rehoboth, Harlech. William PüGH.—(Parhad o tudalcn 147/ (jjrg RODOR o Trawsfynvdd oedd William Pugh. Gan- $g\ wyd ef yn Bryn-yr-wy. yn 1794. £i rieni oeddynt (^fÿ John a Margaret Pugh. Calodd lawer o ysgol yn moreu ei oes, ac ystyried prinder moddion addysg ar y pryd. Ac yr oedd cryn lawer o dalent naturiol ynddo, fel yn amryw o'i deulu. Daeth i Harlech yn llangc ieuangc hoyw i weithio gyd a seiri meini. Arfeiai wrando yr efengyl yn Bethel o dan weinidogaeth J. R. Jones a R. Morgan ; ac yr oedd yn un o'r gynnulleidfa a ymwahanodd gyd a j. 11. jones yn 1817, er nad oedd wedi ei fedyddio ar y pryd. Argyhoeddwyd ef o dan weinidogaeth J. R. Jones, a bedyddiwyd ef ganddo yn llyn uchaf y felin, yn 181S. Bu y ddau yn gyfeillion mynwesol hyd nes y'u gwahanwyd gan angeu. Yr oedd y ddau yn dra hoff o gerddoriaeth, canasant lawer gyda'u gilydd ; a ehyfan* soddodd y ddau amryw o donau melus-ber. Bu WT. Pugh am dymhor yn arweinydd y canu yn Rehoboth, yn yr addoliad ; ac yr oedd ganddo hefyd gôr o dan ei ofal. Meddai ar lawer iawn o alluoedd llenyddol a cherddorol. Efe yn benaf a sefydlodd y cyfarfod ilenyddol ayntaf yn Harlech, yn 1857, yr hwn sydd yn aros mewn bri etto. Cyfarfyddai y pwyilgor cyntaf yn ngweithdy Gth. W'illiams y saer (un o frodorion hynaf Harlech erbyn hyn). Cy- merodd hefyd ran flaenllaw i sefydlu yr " hen glwb," yn y dref, sef Cyfrinfa o'r " Gwir Iforiaid:" ac arferai roddi Annerchiad blynyddol ar ddydd raawr yr wyl yn yr hea