Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XIX.] MEDI, 1895. [Rhif 9. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hen Weinidogion Rehoboth, Harlech. John Dafydd.—('Parhado tudaìen w^). DNABYDDID ef yn ystod y rhan olaf o'i oes, wrth yr enw cyfTredin ar lafar gwlad—" Sion Dafydd, Glan-y-mor." Enw mor gyffredin â " Simon, mab Jona'" neu " Simon Pedr ;" nid oedd unrhyw rodres o gwmpas yr hen weinidogion syml ond duwiolfrydig hyn ; ac ni fynnai yr un o honynt ei deìtlo yn Barch, &c, nac yn " Rabbi." Mab ydoedd John Dafydd i Dafydd Lewis ac Eilen Owen, ei wraig, o Landanwg, fferam islaw Llanfair, ger Harlech. Bu ìddynt saith o blant; sef, Lewis Dafydd (morwr); Catherine Dafydd, yr hon oedd yn fam i Lowry Jones, y Ffridd, Margaret Llwyd, Cae'rffynon, ac Ellen Williams, Beudy bach : Owen Dafydd, White Horse; Ellen Owen, gwraig i pilot o Porth.nadog, o'r enw Evan Owen (a adnabyddid yn gyffre.dn gan y morwyr fel li Yr hen Fath?r;" John Dafydd, gwrthddrych ein cofiant; Grace Dafydd, yrhon oedd y ferch ieuengaf, ac a arhosodd yn Llandanwg tra y bu lyw ; a Richard Dafydd, (di-briod). Bu y ddau olaf hyn yn cyd-fyw yn Llandanwg ar ol eu rhieni. Ac wedi marwolaeth Richard, ymbriododd ei chwaer â brodor o Sir Fôn o'r enw Lewis Thomas, a thrigasant yno hyd ddydd eu marwolaeth. Ganwyd John Dafydd yn y flwyddyn 1784, a phan yn ieuangc arferai ddyfod gyd a'r teulu ar Ddydd yr Arglwydd i Harlech i wrandaw yr efengyl O dan weinidogaeth John R. Jones a Robert Morgan, oblegid gyd a'r eithriad o hen Eglwys Plwyf Llandanwg, nid oedd yr un ty addoliad iddynt i'w gael yn nes na Harlech.