Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyp. XIX.] AWST, 1895. [Eiiif 8. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hen Yy'ei.nidogio.v Rehoboth, Harlech. Owrn' fIu.MPHRF.vs OwiiN.—( Parhad o tudalen 8$J. "^r-r'7'N rhinwedd v synwyr cyffredin cryf a roddwyd iddo; Qpl ei bwyì! a'i arafwch naturiol; ei farn aeddfed a'i r^tJ barch diffuant i reolau Gair Duw, byddai yn ofalus iawn pwy a pha fath gymeriadau i'w derbyn i fewn i'r eglwys, ac nis boddlonid ef heb gael arwyddion neu brawf ìljd sicr o argyhoeddiad ac edifeirwch trwyadl yn mhob ymgeisydd am aelodaeth, a chyffes glir o ffydd yn Nghrist, ynghyd â chydnabyddiaeth weddol dda âg elf'enau cyntaf attirawiaeth yr Efengyl a'i hordinhadau. Tueddai rhai i'w ystyried ef yn rhy ofalus a strid yn y mater hwn, yn gymaint ag y dywedid y byddai am! un gwan ac ofnus, ofn mentro yn mlacn i roddi cyffes ger bron yr eglwys. Ond yn sicr, diffyg adnabyddiaeth o'i natur dda, a'i dyner- wch, a barai i neb ofni dim ; oblegid yr oedd ynddo ddigon o gydymdeimlad a'r gwylaidd a'r gostyngedig, fel nad oedd berygl iddo glwyfo dim ar eu teimladau, na rhoddi rhwystr ar eu ffordd tu a Sion. Ni ddadleuai efe yn erbyn y cyfryw, ond efe a osodai nerth ynddyní. Credai lawer mewn dysgu a goleuo yr anwybodus i ddeall y gwirioneddau syml syJd ya anghenrheidiol i bechadur eu gwybod er ei iachawdwriaeth, ac ni fynnai fedyddio neb heb iddo yn gyntaf ddeall ystyrac arwyddoccád bedydd. a theimlo y pwysigrwydd mawr sydd y'nglyn â'r broffes efengylaidd. Ac os dÿwed néb ei fod ef yn rhy gaeth a manwl wrth dderbyn ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig, dywedwn ninnau fod, ar y llaw arall, lawer gormod o