Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyp. XIX.] EBRILL, 1895. [Ehif 4. NODION BYWGRAFFYDDOL. Hen Weinidogion Rehoboth, Harlech. fParhad o tudalen 36). OWEN HlJMPHREYS 0\\ EN. tDNABYDDID ef ar lafar gwlad, fel—" Owen Ham- phreys, Cefn-y-filldir." Ganwyd ef Awst 1, 1788, yn Hendref-einion, ger Maentwrog, ac yno y treul- iodd flynyddoedd cyntaf ei oes. Yr oedd yn ail fab i Humphrey Owen Humphreys, a'i wraig Laura, merch Felinrhyd-fawr. Pan oedd ef yn lled ieuangc, symudodd ei rieni i fyw yn Maesneuadd, ger Talsarnau ; a phan yn aros yma, dechreuodd fyned i ysgol fechan, a gedwid y pryd hwnw dan nawdd Eglwys y plwyf, yn Llandecwyn. Ond ni bu yma yn hir, oblegid symudodd ei rieni o Maes- neuadd i Faes-yr-aelfor, ger Harlech, i fyw. Ac er mwyn dilyn yn mlaen yn nghwrs addysg, anfonwyd ef i ysgol a gynhelid yn Harlech, athraw yr hon ydoedd un o'r enw Evan James Davies, tad y diweddar Wm. James Davies, Watchmaha, Harlech. Yr oedd yr ysgolfeistr hwn, er yn ddysgyblwr o'r fath lymaf hyd yn nod yn hanes ysgolfeistr- iaid yr oes hono, etto vn ysgolhaig da, ac yn athraw rhag- orol ; ac o dan ei addysgiaeth ef, daeth gwrthddrych ein cofiant yn ysgolhaig gwych ; a gwnasth y defnydd goreu o'r fantais a gafodd y pryd hwnw, er ei alluogi i efrydu mewn Llenyddiaeth Gymreig a Seisnig yn ogystal â Bardd- oniaeth a Duwinyddiaeth, a chyraeddodd safle uchel yn y gangen olaf, ac mewn Beirniadaeth ysgrythyrol. Cafodd ei ddwyn i fyny y'nghanol Bedyddwyr : a gwran- dawodd lawer yn moreu ei oes ar J. R. Jones, a R. Morgan yn pregethu. Pan yn byw yn Maesneuadd, cerdd-