Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XIX.] MAWRTH, 1895. [Rhif 3. I éi i ■ i NODION BYWGRAFFYDDOL. ROBERT MoRGANT, LLANFAIR, GER HARLECH. (Parhad o tudalen igj. -^— N rhestr Hen Weinidogion Rehoboth, Harlech,—yn nesaf at John R. Jones y daw Robert Morgan. Ún ag y mae ei goffadwriaeth yn parhau etto >n anwyl gan amryw frodyr a chwiorydd sydd wedi cyrhaedd tri ügain mlwydd oed ac uchod. Ymddangosodd byr-gofiant rhagorol iddo yn y Greal, am 1853, ° w'aith y Parch. Robert Jones, Llanllyfni, a chyhoeddwyd hwnw yn gyflawn eisoes yn yr Ymwelydd am Ionawr, 1879. A chan nad oes gennym nemawr ddim yn ychwaneg i'w ddywedyd am dano nag a geir yn y Cofiant hwnw, ac mai annoeth a fdiangenrhaid fyddai ei ail gyhoeddi etto yn yr Ymwelydd, rhaid i ni erfyn ar i'r darllenydd chwilio am y rhifyn uchod, a boddloni ar yr ychydig eiriau a ganlyn. Gwr byr iawn o gorpholaeth oedd R. Morgan ; er hvny yn meddu ar gyfansoddiad iach a chadarn :—ysgwyddau ílydain, a breichiau helaeth a gafaelgar, yr hyn a'i gallu- ogai i fedyddio personau bron gymaint arall ag ef ei hun, a hyny gyd a phob deheurwydd a rhwyddineb. Yn mlynyddoedd cyntaf ei fywyd crefyddol bu am dymhor maith yn ddysgybl ffyddlawn i Jones o Ramoth, a daeth yn fuan yn gynorthwywr a chyd-henuriad ag ef. Ond nis gellir dweyd am dano ei fod yn feddyliwr dwfn a gwreiddiol, yn ymresymwr cryf, nac yn gynyrchiol iawn o ran adnoddau ei feddwl íel ei hen Athraw. Er hyny yr oedd fel y wenynen, yn lloffa mel lawer o