Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. 'm Cyf. XIX.] CHWEFROR, 1895. [Rhif 2. NODION BYWGRAFFYDDOL. JOHN R. JONES, RAMOTH. (Parhad o iudalen i). R ol astudiaeth fanwl o lyfrau duwinyddol McLean, Cl ... hymarferiadau, na'r hvn a ddysgid ac a arferid yn gyffredin y pryd hwnw gan y byd crefyddol. Ac am oddeutu 5 mlynedd, ymdreehodd yn egniol i ddwyn yn mlaen ddi- wygiad yn mhlith y Bedyddwyr, oddiwrth yr holl bethau a ystyrai yn llesg a diffygiol ynddynt, megis—" Cy- mysgedd, neu lygredigaeth yn yr athrawiaeth,—diffyg, ac annhrefn yn yr addoliad,—anmhurdeb yn y cymmundeb ;— ac esgeulusdru yn uysgyblaeth, a threfn eglwysig y Tes- tament Ncwydd." " Yrydym yn meddwl yn ddifrifol" meddai, ufod llawer o wahaniacth rhwng crefydd y prif gristionogion, â'r grefydd fydol a defodol, yr hon sydd mewn bri nid bychan y dyddiau presennol, yn mysg yr amrywiol bleidiau Uuosog yn y byd crefyddol. Mae Uawer yn eu tybied eu hunain yn gri&tionogion gwresog, ac yn broffeswyr blodeuog, pa rai sydd yr un amser yn talu mwy o zel, tros orchymynion a thraddodiadau dynion, nag y maent yn ei ddwyn tros ath- rawiaeth a gorchymynion Crist a'i Apostolion ! Ond nid oes gennym ni unrhyw sail ysgrythyrol i alw neb yn grist- ionogion, ond y sawl a gyffesant <l y ffydd yr hon a roddwyd unwaith i'r saint," ac a ufuddhânt yn ewyllysgar i gadw pob peth a orchj'mynodd Crist i'w ddisgyblion."