Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XIX.] IONAWR, 1895. [Rhif 1. NODION BYWGRAFFYDDOL. JOHN* R. JONES, RAMOTH. (Parhad o tudalcn 1S6. Cjf. XVIII). #ND, gan nad beth am ei alluoedd a'i ragoriaethau yn y gwahanol ystyriaethau a nodwyd, diameu mai -c^v>" fel Pregethwr, a Diwygiwr, yr adwaenid "Jones o Rdmoth " yn bennaf. Yma y gorweddai prif elfenau ei t-oblogrwydd. Yr oedd ei awydd am ddwyn eneidiau at V Gwaredwr yn angerddol. a'i lafur yn ddiarebol, ac o'r bron yn ddiorphwys. I'r amcan hwnw y teithiodd lawer iawn, gan wasanaethu i anghenion yr ychydig eglwysi a sefydlasid ar y pryd yn Siroedd Arfon, Meirion, aDinbych, " Hir drafaeliodd o'i fodd,—faith JJdaear Gwynsdd oer ganwaith." Mae yn debvg mai Christmas Evans a John R. Jones oedd y ddau bregethwr mwyaf gyd a'r Bedyddwyr yn y Gogledd y pryd hwnw, cyn yr Ymraniad, ac wedi hyny. Yr oedd y cyntaf yn feddyliwr mawr, a chanddo gôf m- ngyffredin, drychfeddyliau barddonol a hedegog, ac yn draddodwr grymus. Ònd yr oedd Jones yn fwy dysgedig ac yn well ymresymwr nag ef, ac mor hyawdl ag yntau fel traddodwr. Yr oedd Christnias mor lawn o ddrychfeddyliau dammeííol, ac o hyawdledd i'w byrlymu allan o'r areithfa, nes ei gario yn fynych dros derfynau syml gwirionedd yr Efengyl, yr hyn a barodd i'r diweddar Gwilym Hiraethog ei gyffelybu i " farch gorwyllt heb ffrwyn yn ei ben." Yr oedd "Jones, Ramoth," ar y llaw aiall, yn ymresymwr manwl a chywrain, yn ysgrythyrwr digymir, fel " ysgrif- enydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd." yn ,abl i gyd- farnu pethau ysprydol â'phethau ysprydol; ac yn meddu