Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. VII.] IONAWR, 1883. [Rhif I. GREDDF, RHESWM, A DADGUDDIAD, {Parhad o iu dah 182.) II. Y GWAHANIAETH a'r BERTHYNAS RHWNG Casgliadau, Rheswm a Dadguddiad. R oedd dysg a gwybodaeth wedi eu dyrchafu mor uchel yn mysg y Groegiaid, fel yr oedd Plato, ae eraill o'u hathronwyr, yn cyfrif gwy- bodaeth yr un peth a rhinwedd. Yn gyfFelyb hefyd y mae Coleridge, a rhai o'Ödysgedigion yr oes hon, yn gwisgo rheswm a phriödoliaéthau mor oruchel, fel y maent yn dysgu fod cymtíridéb ysbrydol â Duw yr un peth a chanfyddiad y gwirirjnedd gan reswm ; hyny ydyw, fod gwybodaeth a rrjagoriaeth moesol yr un peth yn y pen draw. Defnyddir y gair rheswm i ddynodi gweithrediad y deall, ac argyhoeddiad y gydwybod. Mewn gair, y mae yr holl wirioneddau am Dduw, am ei ddeddf, am ei gariad, am drefn yr -efengyl, a ddadguddir gan Ysbryd Duw i'r meddwl, yn ymddangos yn ol syniad Coleridge, yn etifedd- iaeth wreiddiol a chynhwynol rheswm dyn. Modd bynag, ymddengys y syniad mor ddyeithr i ni fel mai yr unig argraff a wna ydyw gwirio y dywediad, fod dynion mawr mor agored'i gyfe'ilíorni ag ydyw dyn- ion eraill. Y mae dadgiíädiad yn meddu gwirion- eddau o'i eìddo ei hun. Y mae y pethau a " rad roddwyd i ni gan Dduw" yn wirioneddau nas gallasai rheswm dynol wybod dim am danynt. EfaUai nad oes eisiau gwahanu casgliadau rheswm a gwirion- öddau dadguddiad, eto fe ddylid eu gwahaniaethu. Ac y mae yn ddiamheu nad oes un pwynt ag y mae