Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIV.] RHAGFYR, 1900. [Rhif 12. HUNAN-YMWADIAD, A CHODI Y GEOES. NODIADAU AB MATH. XVI. 24. (Parhad o tudalen 163.) (3) Ehaid i ni ymwadu hefyd â balchder y bywyd. Mae hunanoldeb a balchder y bywyd, yn berthynasau agos iawn ; a rhaid ymwadu â hwynt mewn trefn i fod yn ddilynwyr i Grist, oblegid y mae yr yspryd hunanol a balch, yn hollol groes i yspryd yr Arglwydd Iesu a'i ddysgeidiaeth. Un addfwyn a gostyngedig o galon ydoedd Ef, a rhaid i'r sawl a fynnont fod yn ddisgyblion iddo Ef foddloni i gymeryd eu dysgu ganddo i fod felly. Wrth 'falchder y bywyd' yn gyffredin y golygir—yr awydd a'r cariad a fedd dynion at anrhydedd bydol,— enw mawr, ac uwchafiaeth mewn cymdeithas ;—blaenor- iaeth mewn teitlau, mewn safieoedd, mewn gwisgoedd drudfawr, ac mewn tai ac addurniadau gwychion i borthi balchder y galon ddynol. Yn awr, y mae hyn oll yn gwbl groes i ddysgeidiaeth ac esiampl Crist i'w bobl. Dysgai Ef iddynt wneyd i ffordd a'r yspryd balch, ym- chwyddol, ac aristocrataidd sydd yn y byd ; a bod yn rhaid eu troi, a'u gwneyd fel y bachgenyn bychan, syml a gwylaidd a gymerodd efe atto yn esiampl i'w ddangos iddynt :—os amgen, nad elent i mewn i deyrnas nefoedd. Ehybuddiai y deuddeg Apostol rhag bod yn debyg i'r Phariseaid beilchion a hunandybiol, pa rai a garent y Teitlau, a'r Prif-gadeiriau yn y synagogau, a chael eu cyfarch yn y marchnadoedd—" Babbi, Eabbi." Beth ydyw yr achos, tybed fod cyn lleied o bregethu yn erbyn y pechod hwn y dyddiau hyn ? Ofnwn nad oqs 12