Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIV.] TACHWEDD, 1900. [Rhif 11. HUNAN-YMWADIAD, A CHODI Y GEOES. NODIADAU AB MATH. XVI. 24. IUíAE hunan-ymwadiad a chodi y-groes, yn ol addysgac |yi esiampl Crist, yn rhan hanfodol o'r grefydd Grist- 1 ionogol. " Pwy bynnag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ol i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi," Luc xiv. 27. Wrth hyn yr adwaenir disgyblion Crist. "Mae fy nefaid i yn gwrandaw fy llais i ; a mi a'u hadwaen hwynt, a hwy a'm canlynant i," Ioan x. 27. Cyfyd dau ofyniad yn naturiol ar bwys testyn y Nodiadau hyn, sef yn 1, Yn mha beth y mae yr hunan-ymwadiad hwn yn gynwysedig? Yn 2, Beth a olj'gir wrth godi'r groes a chanlyn Crist ? I. Yn mha beth y mae'r hunan-ymwadiad hwn yn gynnwysedig ? Pan y gesyd Crist y fath bwysigrwydd ar hunan-ymwadiad, neu ar fod i ddyn ymwadu âg ef ei hun ;—rhaid fod hunan,—hunanoldeb, a hunangyfiawn- der, yn dra phechadurus yn ngolwg Duw : ac felly y mae njewn gwirionedd. Wrth yr " hunan " a'r " hunanoldeb " hwn y golygir— Y duedd lygredig hono sydd yn nghalon dyn, (1) I synio lawer yn rhy uchel am dano ei hun. (2) I ymgais at foddhau y chwantau hyny sydd yn ei anian bechadurus, pa rai ydynt yn groes i ddeddf ac ewyllys yr Arglwydd. (3) I ymgyfiawnhau yn ei berson—ei ragoriaethau—a'i deilyngdod ei hun ; a hyny ar draul gwrthod yr unig Feichnìydd a Chyfryngwr a all gyfiawnhau ger bron Duw drwy ei Aberth haeddianol. 0 ganlyniad y mae yr " hunan" hwn yn ei holl agweddion, yn bechadurus yn ngolwg Duw ; a gelwir arnom i ymwadu âg ef yn holîol 11