Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIV.] HYDREF, !9oo. [Rhif io. GODDEF EIN GILYDD MEWN CARIAD. (Parhad o tudalen 132). fAN welir personau fel hyn mewn eglwysi, yn wein- iaid o ran eu hamgyffredion, eu gwybodaeth, a'u ffydd,—y mae gormod o duedd mewn eraill efallai i edrych yn isel, os nad diystyrllyd, arnynt: ac yn gyffredin y mae'r sawl a edrychant felly ar eu brodyr gweiniaid, yn agored i yspryd balch, ymchwyddol, ac ymffrostgar, yr hwn nad edwyn ddim o'r ysbryd mwyn- aidd a charedig ar sydd yn nodweddu y gwir Gristion, ag a'i dysga i gyd-ddwyn, a goddef mewn canad y sawí nad ydynt yn dyfod i fyny a'i safon ef yn ngraddau ei ffydd a'i wybodaeth. Ac od oes neb yn euog o'r yspryd ymffrostgar hwn, da fyddai i'r cyfryw gofio y mynych annogaethau i'r gwrthwyneb—"A chyd-ystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da." " Yr hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch attoch, nid i ymrafaelion rhesymau." " Os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ol cariad." " A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain, Boddhaed pob un o honom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth. Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun," &c. "O herwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw." Y mae egwyddorion a gwérsi mawrion pob goddefgar- wch Cristionogol yn cael eu heglur ddysgu yn yr ymad- roddion hyn a'n dyledswydd ddigamsyniol ninnau ydyw eu gweithredu a'u hymarfer tu ag at y dosbarth dan sylw, gyd a phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, gan ochélyd rhag taflu un math o ddiystyrwch arnynt mewn iaith nac ymddygiad. Gallwn dosturio wrth anwybod- aeth a gwendid ffydd ac amgyffredion llawer o'n brodyr 10