Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIV.] MEDI, 1900. [Rhif 9. GODDEF EIN GILYDD MEWN CARIAD. (Parhad o tudalen 116). ^tëB^N ein sylwadau blaenorol ceisiwyd egluro i'rdarllen- JjJ^, ydd y cam-ddefnydd amlwg a wneir yn gyffredin o'r hyn a elwir yn "ddeddf goddefgarwch," yn mhlith proffeswyr Cristionogaeth ; gan sylwi ar yr hyn, yn ol ein barn ni, na ddylid eu goddef. Y mae deddf goddefgarwch yn bod, ac i fod hefyd, wedi'r cwbl a ddywedwyd ; oblegid y mae goddef ein gilydd mewn cariad yn un o'r gwersi pwysicaf a ddysgir i ni yn ngair Duw. A'n lle ni, yn ogystadl a'n dyled- swydd, ydyw chwilio allan yr egwyddorion cyffredinol, a'r ystyriaethau neillduol, sydd yn galw am y goddef- garwch hwn. Wrth wneuthur hyn, nis gellir, wrth gwrs, ddim tynnu allan linellau manwl mewn ysgrif fel hon, erpenderfynu pob achos-a ddichon gyfodi yn mhlith brodyr; a dyweyd yn bendant pa un a ydyw yr achosion hyny yn bethau i'w goddef, ai ynteu nad ydynt. Rhaid wrth farn bwyllog, synwyr cryf, a llawer o ras a doeth- ineb yn fynych er ymwneyd ag achosion neillduol ar eu penau eu hunain. Yn ol rhediad cyffredin dysgeidiaeth Crist a'r apos- tolion, ymddengys yr ystyriaethau canlynol yn gyfryw ag sydd yn galw yn eglur am ein holl ffyddlondeb i ddeddf goddefgarwch tuag at y naill a'r lla.ll, a hyny oddi ar gariad pur. 1. Weithiau cyfarfyddwn a llawer o bethau annymunol mewn brodyr, yn tarddu oddi ar dymherau a thueddiadau naturiol ynddynt. Nis gellir hwyrach eu cyhuddo o droseddu cyfraith Crist mewn modd gwirfoddol ac union-