Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIV.] AWST, 1900. [Rhif 8. GODDEF EIN GILYDD MEWN CARIAD. (Parhad o tudalen 99). Yn mhlith y pethau na ddylid eu goddef gellir nodi yn (b) Diystyrwch ar, ac anufudd-dod gwirfoddol i ordin- hadau pendant Brenhin Seion. Derbyniodd Crist gan y Tad bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Efe ydyw Pen a Phriod Seion ;—- Brenhin ei eglwys,—ei Deddfroddwr,—ei Phroflfwyd a'i Harchoffeiriad mawr. A pha bethau bynnag a ddysgodd efe yn bersonol, neu a ddysgwyd gan Yspryd Crist yn ngenau ei apostolion ysprydoledig, mae yr eglwys Gristionogol i'w credu a'u derbyn. A pha osodiadau bynnag a ordeiniodd Efe, ac a ddygid yn mlaen yn yr eglwysi apostolaidd i'w dal i fyny, a'u hymarfer fel ordinhadau crefyddol, ni fedd neb hawl i wyro oddi wrthynt, eu nhewid, na'u rhoddi heibio; oblegid " Un gosodwr cyfraith y sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli." Ä pha Dd)'sgawdwr bynnag a gymero arno ei hun yn wirfoddol yr hawl o ddysgu yn amgen ; a pha Gynghor neu Gynnadledd bynnag a newidia ddim ar ordinhadau pwysig a phendant yr Efengyl, y mae'r cyfryw yn euog, i fesur mwy neu lai, o de^-rnfradwriaeth yn erbyn yr Hwn a osododd Duw yn Frenhin ar Seion, ei fynydd sanctaidd. " Fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant na Moses;" ac er íbd yn nghyfraith Moses luaws mawr o ddefodau, gorchymynion, a gosod- iadau pendant i Israel i ufuddhau iddynt, etto ni chaniatteid i neb newid yr un o honynt, na'u rhoddi heibio : a beiai Crist yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid am hyny—"Gwych-yr j'dych )rn rhoi heibio orchymynion Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain." Yn awr, os ydyw Crist yn fwy na Moses, yna rhaid fod mwy