Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIV.] MEHEFIN, 1900. [Rhif 6. GODDEF BIN GILYDD MEWN CAEIAD. ^f^fEIN y mae eisieu egluro beth a olygwn yma wrth y J|o gair goddef, oblegid yr ystyr gyffredinol a roddir iddo ydyw—eyd-ddwyn â'n gilydd ; neu feddu cyd-ddygiad Cristionogol y naill tuag at y llall yn ngwyneb diffygion gwirioneddol neu dybiedig. A phan y'n cynghorir i " oddef ein gilydd," awgrymir ar unwaith y rhaid fod rhywbeth yn ngholl, neu allan o le ; a'r rhywbeth hwnw yn gyffredin yh gyfryw ag nas gellir ei wella, neu ei symud o'r ffordd ar unwaith. Ystyr wreiddiol y gair goddef yn ei berthynas â Duw yn ei ymwneyd â dynion ydyw—dal yn ol, neu ymattal, am dymhor o leiaf, rhag gweinyddu cyfìawnder llym yn ngwyneb troseddau. Y mae "goddef ein gilydd mewn cariad," yn ddyled- swydd bwysig a ddysgir yn fynych yn ngair Duw i'r saint. " Deisyf gan hyny arnoch yr wyf fi, y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn addas i'r alwedig- aeth y'ch galwyd iddi; gyd â phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, yn nghyd â hir-ymaros ; gan oddef eich gilydd mewn cariad." Eph. iv. 1, 2, — "Gwisgwch am danoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros ;—gan gyd- ddwyn â'ch gilydd, a maddeu i'ch gilydd os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb," &c. Col. iii. 12, 13. Ond er fod y ddyledswydd hon ynddi ei hun yn un ddiamheuol ; ao er fod ei rhwymedigaeth arnom mor hollol angenrheidiol fel na all unrhyw eglwys barhau yn hir mewn ystâd o undeb a thangnefedd hebddi,—eto y mae yn ffaith fod llawer yn annghytuno â'u güydd yn nghylch y pa beth,